Mae CPD Y Felinheli yn cefnogi ‘Wythnos Chware Teg Cymdeithas Pêl-droed Cymru’ a fydd yn rhedeg o ddydd Gwener 22 Medi tan ddydd Sul 1 Hydref ac sy’n atgyfnerthu pwysigrwydd parch cydfuddiannol ar ac oddi ar y cae, ac yn annog lleihad mewn camymddwyn ar y cae. Mae Cod ‘Chwarae Teg CBDC’ yn dyrchafu’r neges bwysig o ‘Chwarae Teg’ drwy gydol bêl- droed yng Nghymru, sydd â’r nod o ysbrydoli Chwaraewyr, Clybiau, Swyddogion y Gêm a Chefnogwyr i gadw disgyblaeth dda ar y cae trwy gadw at Gyfreithiau’r Gêm, yn ogystal i barchu pob aelod o’r teulu pêl-droed yng Nghymru.
Er mwyn annog ymddygiad parchus ymhellach sy'n cyd-fynd â Chod ‘Chwarae Teg CBDC,’ mae CBDC yn cymell ac yn gwobrwyo clybiau sy'n chwarae rhan ragweithiol i leihau camymddwyn ar y cae. I gyflawni hyn, bob mis, mae CBDC yn cyhoeddi Tablau Chwarae Teg y Cynghreiriau Cenedlaethol ac mae'r Clybiau sydd ar frig eu tabl Chwarae Teg ar ddiwedd y tymor yn derbyn Gwobr Chwarae Deg a gwobr o £1000 sydd ar gael i'w wario ar wella eu Clwb.
Dywedodd Rheolwr Disgyblu CBDC, Margaret Barnett: “Mae Wythnos Ymgyrch Chwarae Teg CBDC yn bwysig i ddyrchafu’r neges Chwarae Deg ymhellach ac i atgoffa pawb sy’n ymwneud â phêl-droed, boed hynny yw’r Chwaraewyr, Swyddogion y Gêm, Hyfforddwyr neu Gefnogwyr, y pwysigrwydd bod yn barchus at ei gilydd. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n Clybiau ac unigolion am gefnogi'r ymgyrch hon dros y tymhorau blaenorol."
Ewch i faw.cymru/fair-play am fwy o wybodaeth.
Mae CPDM Y Felinheli wedi dechrau tîm dan 11 yn ddiweddar y tymor hwn, a hyd yn hyn, er ei bod yn ddyddiau cynnar mae’n profi i fod yn gam llwyddiannus i adeiladu’r clwb. Bydd dau o’n chwaraewyr hŷn, Katie Midwinter ynghyd â’r hyfforddwr Jody Cain yn cymryd yr awenau a rheoli’r grŵp, gyda chefnogaeth y clwb cyfan gobeithiwn y bydd hyn yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd ac yn helpu i adeiladu timau o bob oedran o fewn y gêm merched.
Gyda niferoedd yn cynyddu'n wythnosol a noddwr yn dod i gyflenwi offer hyfforddi a chitiau mae'n edrych yn ddisglair iawn ar gyfer y dyfodol. Mae cwmni cyfreithwyr lleol, Carter vincent wedi noddi'r topiau hyfforddi ac mae'r citiau chwarae yn cael eu noddi gan Recordiau Cosh Yws Gwynedd.
Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawsom wrth sefydlu’r tîm merched ac mae’n galonogol iawn bod busnesau cariadus yn barod iawn i gefnogi gêm merched a’n helpu i adeiladu un o’r chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf hyd yma, chwaraeon merched!
Bydd y tîm dan 11 yn cystadlu yng nghystadlaethau’r ‘Round Robins’ sy’n cael eu cynnal bob pythefnos mewn gwahanol diroedd o amgylch Gogledd Cymru, bydd Cae Seilo yn cynnal digwyddiad ‘Round Robins’ naill ai ddydd Sadwrn y 29ain neu ddydd Sul y 30ain o Hydref a byddai’n help enfawr i’r clwb pe gallech ddod allan i gefnogi ein genethod.
Am unrhyw wybodaeth am hyfforddiant neu hyd yn oed cymryd rhan o fewn y clwb cysylltwch trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, instagram neu facebook, CPD Merched Y Felinheli. Ein ‘moto’ o fewn y clwb yw #teulufelin felly mae croeso mawr i unrhyw help neu gefnogaeth gan unrhyw un gan ein bod eisiau adeiladu’r clwb yma nid fel clwb pêl droed ond fel teulu o fewn y gymuned.
Gobeithiwn eich gweld yng Nghae Seilo yn y dyfodol agos!
Diolch yn fawr i Glynne a Deian Jones o Gŵn Defaid Pentir am y pecyn noddi newydd, sy’n cynnwys crysau cnesu fyny newydd i’r hogia!
Os hoffech roi rhodd, gwnnech trwy'r ddolen isod, gan gofio nodi enw chwaraewyr hoffech noddi hefyd!