SADWRN 5 HYDREF 2019, 14.30 |
LlannefyddLlion Morris 45' |
3 - 4 |
Y FelinheliRhys Parry 10' |
Doedd Felin heb guro Llannefydd o'r blaen. Gyda Euron yn poeni am draffig yr A55, penderfynwyd gadael Fic yn gynnar, felly cyrraedd yn fuan fel Llandudno Amateurs oedd hanes y tim dydd sadwrn. Llun sydyn efo Shait jr jr cyn paratoi am y gem fawr.
Pwynt oedd rhwng y ddau dim cyn y gic cyntaf. Braf gweld dau wyneb cyfarwydd yn ol yn y garfan, Lieutenant Pob a'r globe-trotter Rhodri Dafydd. Dechreuodd Felin yn dda, Archie'n dawnsio heibio amddiffyn Llannefydd cyn slotio'r bel heibio gol-geidwad Llannefydd. 1-0 ar ol 10 munud.
Chwarter awr wedyn, tro Iw Bonc oedd hi i ddangos ei sgiliau lawr yr asgell cyn rhyddhau ergyd/cross i mewn i'r bocs gan fethu pawb, yn cynnwys y gol geidwad. 2-0. Roedd Felin yn hedfan, a'r cefnogwyr yn mwynhau gem capital cities sy'n dechrau efo C, Gwion Em. Cafodd Felin siawns i ladd y gem yn yr hanner gyntaf. Penalti, tydi Joni ddim yn methu'n aml... ond 2-0 (dal i fod)...
Wrth i'r gem agosau at hanner amser, roedd cefnogwyr a mainc Felin yn gallu clywed fod y bel yn fflat fel beach ball. Marc Wyn yn mynnu pel gwell. Honiadau gan gol geidwad Llannefydd fod Marc yn "wasdio amser yn fane y di**head". Ateb Marc oedd "Prynwch f**ing pwmp ta'r tramps."
Wedi'r stop yn y chwarae daeth Llannefydd yn ol i'r gem a sgorio yn erbyn llif y chwarae. 2-1. Ond bron yn syth wedyn gafodd Felin gic rydd yn bell i ffwrdd o'r gol. Joni'n honni ei fod yn mynd am gol... taro'r bar ac ar blat i Owain Em. 3-1 ht. Hanner amser a cefnogwyr Felin mewn hwyliau da, Gwion Em (oedd yn gandryll fod yr Hawk and Buckle wedi cau am 1 o'r gloch) yn yfed car Euron yn sych.
Dechreuodd Felin yr ail hanner yn dda ond methu sgorio. Daeth LLannefydd yn ol i'r gem. Amddiffyn bler gan Felin, 3-2. Rhif 3 Llannefydd yn dathlu tuag at mainc Felin, ella nad ydio'n gallu cyfri'n dda iawn? Eniwe... Roedd y gwynt yn hwyliau Llannefydd. Amddiffyn bler unwaith eto, 3-3. Ella dyma pryd oedd rhif 3 isio dathlu o flaen mainc Felin? Dwnim.
Llannefydd oedd yn edrych yn fwya' peryglus. Enter Rhodri Dafydd. Capten America'n dawnsio heibio amddiffynwr Llannefydd cyn taro'r bel gyda'i droed chwith. Y gol geidwad yn arbed ond methu dal hi. Archie'n rhedeg fel flash. Tap in, 4-3, gyda munudau'n weddill. Absolute Scenes wrth i Archie gofleidio'r fainc.
4-3 ft.
Buddugoliaeth wych I Felin! Ail yn y gynghrair wedi chwarae un gem yn llai. Detour bach drw Betws yn Rhos ar y ffordd adra. Ma ne pub da yn fane.