SADWRN 22 RHAGFYR 2018, 14.00 |
Y FelinheliIwan Owen 13' |
5 - 4 |
GaerwenLiam Vaughan Williams 25' |
Roedd Felin yn mynd mewn i’r gem yma gyda sgwad reit denau – Fish yn bancio, Shait yn sexed out a Con hefo coesau jeli ar ol bora prysur yn y gawod. Felly toedd y gem yma ddim am fod yn hawdd. Ond tîm cryf dal i fod gyda Cra yn slotio fewn i CDM gan ddod a’r number 2 nol mewn i ffashiwn am y tro cyntaf ers Abou Diaby.
Dechreuodd Felin yn dda iawn a mynd fyny 2-0 o fewn chwarter awr. Diolch i Islwyn Bonc am gadw’r cleifion hungover yn hydrated. Toedd hyd yn oed all-dayar efo Huws ddim am stopio Archie rhag sgorio. Peniad daclus gan groesiad Carwyn. Iw Bonc gafodd y llall (neu Archie neu Ifan Em neu own goal). Sgoriodd Gaerwen yn dilyn pel lletraws llac o ganol y cae gan Gruff. Bai y tywydd a chyflwr y cae mae’n rhaid. Sgoriodd Iw Bonc 2 arall cyn hanner amser i wneud hi’n 4-1 ar yr egwyl.
Mae’n rhaid bod hangovers wedi cicio fewn erbyn yr ail hanner oherwydd dechreuodd Felin yn warthus. Roedd Gaerwen yn amlwg wedi mynd dros eu tic-tacs yn ddwys yn ystod hanner amser. 2 gol yn fuan yn yr ail hanner yn dod a Gaerwen nol i 4-3. Roedd Cra eisiau gwneud yn siwr bod y ffans yn cael gwerth eu pres yn y gwynt a’r glaw felly sgoriodd own goal i ddod a diwedd cyffroes i’r gem. Felly 4-4 a Gaerwen dal i bwyso. Hefo tua 10 munud i fynd, cafodd Felin gic rhydd yn hanner Gaerwen. Pel hir i mewn i’r bocs, peniad Ifan Em nol ar draws y gol i roi peniad hawdd i Gruff a rhoi Felin nol ar y blaen. Roedd Euron eisiau cadw pethau’n dyn a weindio Gaerwen i fyny ychydig felly roedd rhaid gwneud ychydig o newidiadau. Rhywbeth fel hyn oedd hanes y subs:
• Al Em – Ymlaen 80 munud, cerdyn melyn 82 munud
• Owain Sbanar – Ymlaen 83 munud, chopio boi reit o flaen yr away dugout 84 munud
• Euron – Ymlaen 88 munud, cerdyn melyn 90 munud
So mi ath hyna’n dda. Sgôr terfynnol – Felin 5-4 Gaerwen. Perfformiad yr ail hanner yn crap ond fe rown ni’r bai ar y tywydd a’r lysh.
Ffeithiau’r diwrnod:
• Ma Al Em wedi averagio 1 cerdyn melyn i bob 12 munud tymor yma
• (Ffaith headars i chdi IDDN) Roedd 4 allan o 5 gol Felin yn headars
• Nath Dyl Junior ddechra ar Brian y linesman
Fideos gan Jack Cain. Llun gan Matthew Hughes.
Y Tîm
Guto Hughes
Ifan Dafydd
Ifan Em
Martin
Ryan
Chris Brown
Gruff John
Iwan Eds
Archie
Carwyn Dafydd
Iw Bonc
Owain (ymlaen yn lle Archie)
Euron (ymlaen yn lle Iwan Bonc)
Aled Em (ymlaen yn lle Carwyn Dafydd)
MOTM - Iw Eds