150918-a

 

badgebadge

SADWRN 15 MEDI 2018, 14.30
TLWS FAW ROWND 2
Maes Eilian

Llanfairpwll

0 - 5

Y Felinheli

 

Hwn oedd y gem gyntaf ar ol i rhan fwyaf o’r hogia fod yn Denmarc ar international duty. Ail rownd Cwpan yr FAW trophy sef cwpan cenedlaethol felly mae Felin yn llygadu rhediad dda. Gyda tua 20 o chwaraewyr ar gael, roedd gan Euron benderfyniad anodd o bwy oedd am fod yn y sgwad heb son am yr 11 i ddechrau. Ond pwy bynnag oedd yn dechrau, roedd yn sicr am fod yn dîm cryf. Un absenoldeb sylweddol ar y diwrnod oedd Sgil ag oedd wedi mynd am day out hefo ffrindiau Uni.

Hanner cyntaf distaw iawn oedd hi ac efallai roedd trip Denmarc yn dangos. Shait dal yn chwysu Carlsberg. Wedi dweud hynny, Felin oedd yn creu y cyfleon. Yr orau yn dod o gic rhydd clefar. Ifan Dafydd yn rhyddhau Archie i gymryd shot o du allan y bocs, Shait, yn glefar, yn sylwi bod y shot yn mynd wide felly yn rhoi ei ben yno i benio hi ar y targed. Roedd o wedi dechrau dathlu cyn sylwi bod y bel wedi bownsio oddi ar wyneb goli Llanfair ac allan. Roedd hi’n hanner reit ddistaw heblaw am Ifan Roberts yn fflio fewn i tua 8 challenge. Diwadd yr hanner fe dorodd Archie fewn o’r dde a cymyd ergyd oedd yn rhy anodd i’r goli ddelio hefo. Cra yn mynd am challenge a’r bel yn bownsio dros y llinell. Hanner amser, 1-0 i Felin, Crarchie yn sgorio.

Felin oedd ar y top drwy gydol yr ail hanner ac fe oedd Felin 2-0 i fyny ddigon buan. Amddiffynwr a goli Llanfair yn mynd am yr un bêl a’r bêl yn disgyn i Cra. Cadwodd ei ben i rolio hi fewn i’r rhwyd. Jord yn gwneud gwaith da ar gyfer y 3ydd a thynnu hi nol i Gruff sgorio. Cwpwl o subs wedyn wrth i Euron geisio adio ychydig o pace i’r tîm. Fish yn mynd right back yn safle Ifan Dafydd Drws Nesa ac Al Em ar yr asgell chwith yn lle Archie. Super sub Al Em oedd y nesa ar y scoresheet gyda taran o hedar o groesiad Jord. Early contender am twat of the season oedd y digwyddiad nesaf. Jord yn cael ei ffowlio ond yn aros ar ei draed a ffeindio ei hun mewn lle da i groesi gyda tua 4 chwaraewr Felin yn y bocs yn disgwyl. Ond er bod y reff, John Junior heb chwythu, cododd Jord y bel yn barod i gymyd cic rhydd. John Junior yn chwythu am handball a rhoi cic rhydd i Llanfair. Lwcus bod hi’n 4-0 ar pryd! Roedd dal cyfle i Al Em gymyd “shot” o’r ochr chwith a cyrlio hi yn neis i gornel pella’r rhwyd. Bydd ei noddwr, Lieutenant Lance Corporal Sergeant Major Pob yn prowd iawn. Felly 5-0 oedd y sgôr terfynnol i heuddu trip i Brymbo yn y rownd nesaf.

Ffeithiau’r diwrnod:

• Mae angen 3ydd pont dros y Fenai
• Bechod bod Hatton ddim yna i gael chwarae ar y cae American Football
• ‘Da ni angen sortio warm up tops
• Mae Ifan Roberts wedi cael esgidiau pel droed newydd

Adroddiad gan Gruff John

Fideos gan Jack Cain a lluniau gan Jack Cain a Dyl Bonc.

Y Tîm

Carl Jones
Ifan Dafydd
Dion Shait
Ifan Em
Ifan Roberts
Connor Japheth
Steve Tindall
Owain Em
Archie
Gruff John
Chris Brown

Aled Em (ymlaen yn lle Archie)
Fish (ymlaen yn lle Connor Japheth)
Jordan (ymlaen yn lle Chris Brown)
Iwan Bonc
Iwan Eds

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gem