261116-c

 

badge badge

SADWRN 26 TACHWEDD 2016, 13.45
CWPAN TAKE STOCK VAN HIRE ROWND 2
Mochdre Sports Club

Mochdre Sports

Jordan Phillips (2)
Darren Landers
Craig Roberts

4 - 4

(4-4 FT)

Mochdre'n ennill 4-2 ar giciau o'r smotyn

Y Felinheli

Callum Macdonald (2)
Gruff John (2)

 

Adre i Mochdre oedd hi fod prynhawn dydd Sadwrn, ond oherwydd y tywydd roedd rhaid teithio i "Pigtown" (fel mae C2daB yn ei alw) i chwarae'r gem gwpan. Roedd hi'n gem bwysig, yn rownd yr wyth olaf, ac roedd yr haul yn sgleinio dros gae Mochdre.

Daeth Felin yno heb y marine, Pob, heb y dyn bach swnllyd, Sgil, ac heb seren Fferm Ffactor, Gwion, ond roedd y garfan dal yn un cryf. Dechreuodd Felin yn gryf a daeth y gol gyntaf wedi chwe munud. Iwan Bonc yn croesi o'r asgell dde yn galnio ar ben Cal Mac. 1-0. Dechrau da i Felin ond fel sydd wedi digwydd yn aml y tymor hwn daeth y gwrthwynebwyr yn ol a sgorio dwy sydyn i fynd ar y blaen. Munudau cyn hanner amser a daeth y bel i mewn o'r asgell dde unwaith eto, roedd Cal yn disgwyl yno a tarodd y bel i gefn y rhwyd. Gol wych i ddod a'r gem yn gyfartal ar hanner amser.

2-2.

Dechreuodd Felin yr ail hanner fel yr hanner gyntaf. Glaniodd y bel i draed Gruff John ac ar ol ei ergyd daro'r ddau bostyn aeth i mewn oddi ar droed un o amddiffynwyr Mochdre. Felin ar y blaen, ond dim am amser hir wrth i Mochdre ddod yn ol unwaith eto. Gem wych i'r niwtrals!

Yna daeth pedwerydd gol Felin o nunlle. Gruff John yn sgorio chwip o gol i ddod a Felin ar y blaen. Roedd hi'n gol mor dda doedd hyd yn oed Gruff methu coelio'r peth wrth iddo floeddio "si gol" tra'n rhedeg yn ol i'w hanner ei hun. Ond doedd Felin ddim ar y blaen am hir. Gorffennodd yr ail hanner a'r sgor yn gyfartal.

4-4.

Daeth Dylan a Ryan ymlaen i ddod a coesau ffres i Felin cyn diwedd yr ail hanner. Martin yn cael ei orfodi oddi ar y cae oherwydd anaf ac yna Connor oedd wedi chwarae'n dda yn ganol cae yn dod oddi ar y cae, gyda Cra yn cymeryd ei le. Ni ddigwyddodd llawer yn amser ychwanegol...

Felly ar ddiwedd y gem roedd hi'n gyfartal a ciciau o'r smotyn oedd i ddod i setlo'r gem.

Cal oedd y gyntaf i gymeryd un. Cic o'r smotyn wych. 1-0.

Yna daeth Mochdre yn ol. 1-1.

Danny oedd y nesaf ac er iddo gymeryd un o'r ciciau smotyn gorau i mi weld!! Roedd arbediad y gol geidwad yn anhygoel! Roedd rhaid bod yno!

Ar ol hynny sgoriodd Mochdre bob un cic o'r smotyn. Tarodd Iwan Eds y postyn a doedd cic wych Ifan Em ddim yn ddigon i achub Felin. Fel ddywedodd Islwyn Bonc "Centre back yn dangos i centre forward sut i gymud penalti". Dwi'n credu mai am Danny oedd yn son, ond ni allai fod yn sicr.

Roedd hi wedi bod yn wythnos "ddu" iawn i'r clwb gyda Black Friday Gate wedi achosi llawer o boendod i'r pwyllgor. Nid ydy'r clwb yn barod i roi sylwadau ar yr hyn ddigwyddodd, ond ar y cae roedd perfformiad y tim wedi codi calon y pentref. Mi wnai orffen yr adroddiad gyda dyfyniad barddonol gan un o chwaraewyr Felin - "Natha ni golli 3-0 i nhw home a 4-4 away heddiw, dangos bo ni'n gwella."

Adroddiad gan Aled Emyr

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm