SADWRN 22 EBRILL 2017, 14.30 |
Y FelinheliGruff John 7' |
3 - 2 |
Blaenau Ffestiniog AmateursDavid Copsey 37' |
Ar ddiwrnod braf o Ebrill, Amaturiaid Blaenau Ffestiniog oedd y gwrthwynebwyr ar Gae Seilo. Cafwyd munud o ddistawrydd i gofio am Karel, un o gymeriadau mawr y pentre a'n gadawodd yn sydyn Sul diwethaf.
Yn dilyn canlyniad wych oddi gartref yn Amlwch (via Mynydd Parys) nos fercher, roedd momentwm yn bwysig, a tri phwynt arall yn y fantol.
Siom oedd clywed bod y "mushroom bach tew" ddim ar gael heddiw i wynebu ei hoff glwb, a hyny am ei fod dal i chwilio am ei "miniature boot" arall!!
Cafodd Felin y dechrau gorau i'r gêm, Ifan Dafydd drws nesa yn ôl i gymeryd ei le yn y back four (floor manager Kevin Parry having none of it wrth orfodi Hitman i weithio diwrnod y gêm....eto!) yn torri lawr yr asgell dde, a chwarae'r bêl ar draws i Gruff John, a orffenodd yn wych o ymyl y bocs, 1-0 Felin ar ôl 7 munud.
Yn fuan wedyn, aeth Felin ymhellach ar y blaen, yn dilyn build up mewn i'r cwrt chwech, glaniodd y bêl wrth draed Mr consistent, Ifan Em, am ei ail goalmouth scramble llwyddianus mewn wythnos, 2-0 Felin.
Cafwyd digon o gyfleon i fynd ymhellach ar y blaen, ond mae'n deg dweud bod Felin yn wastraffus iawn ar adegau. Arweiniodd hyn at gyfnod o bwysau sylweddol gan Blaenau. Yn ystod y "purple patch" yma, roedd galwadau Tony Towel-esque yn dod gan yr ymwelwyr i rhoi fwy o bwysau ar y left back, coz odd o'n shit!!
Talodd pwysau Blaenau, wrth i sgrambl o flaen gôl Felin hanneru'r mantais. Hanner amser 2-1
Er mai un gôl oedd ynddi, Felin oedd yn edrych fwya tebygol o sgorio, ond tra dal yn wastraffus, y sgôr yn parhau i fod yn un peryg. Daeth "cyffro" mwyaf yr ail-hanner pan dderbyniodd Iw Eds gerdyn melyn am rhegi mewn rhwystredigaeth at y dyfarnwr, #classicIwEds #gormodoplaystation. Daeth Iw off chydig wedyn, Dan (shorts Adidas du) Jnr ymlaen yn ei le.
Yn dilyn cyd-chwarae taclus rhwng Iw Bonc a Dan ar ymyl y bocs, gorffenodd Dan yn dwt i ochr bella o'r rhwyd. 3-1 Felin.
Edrychai fel bod y gêm ar ben wedi hyn, Chris Brown ymlaen yn lle Dan (oedd o YN calm ok!!) a Harri (it's round and round init) Hughes yn lle Ryan Cain. Rhoddodd Cra tidy pass drwadd i Joni, a rhedodd at y gôl ond i'r goalie gael y gorau unwaith eto. Cyfle hefyd i Cra ddal y bêl fyny ar ymyl y centre circle, a disgwyl cymorth, ond am yr opsiwn Hollywood aeth o, a trio fflicio hi heibio'r centre half....
Hefo 10 munud i fynd, a chydig bach o gontrofersi ar yr ystlys, taflodd Blaenau y bêl mewn i'r bocs, ac yn dilyn peniad allan, tarodd rhif 9 Blaenau, Dave Copsey, bollten o foli o tua 25 llathan, dim gobaith i Mills yn y gôl, #Tourettestime.
Er y squeaky bum time, mi welodd yr hogia weddill yr amser allan i gipio'r pwyntiau. Dwy fuddigoliaeth yn dilyn ei gilydd am y tro cynta ers dros 3 mis, a 6 pwynt pwysig at gyfanswm y tymor.
3 gêm gartref ar ôl, y gynta o'r rhain nos fawrth yn erbyn Llanerchymedd. Dewch yn llu i gefnogi!
Pethau a ddysgwyd heddiw:
Er fod o heb gael cookery bore ddoe, gena Carwyn Dafydd ddwylo menyn
Gena Harri sprint cartoon, h.y limbs fo'n symud tua 90mph, ond jog dio basically
Cones are the future cyn belled a mae technical areas yn y cwestiwn
Fysa Usain Bolt byth yn passio fitness test referee Welsh Alliance
Adroddiad gan Dyl Bonc
Y Tîm
Mills
Fish
If Em
Dyl Jnr
If Daf drws nesa
Iw Eds
Con Japh
Joni
Dan
Iw Bonc
Ryan
Sdal
Harri (ymlaen am Ryan)
Dan Jnr (ymlaen am Iw Eds)
Cra (ymlaen am Dan)
Dyl Bonc
MOTM - Connor Japheth