IAU 13 EBRILL 2017, 18.30 |
Mynydd LlandegaiIwan Morris 11' |
5 - 2 |
Y FelinheliDaniel Hughes 60' |
Yn dilyn tri phwynt adref yn erbyn Llanllyfni nos Fawrth, roedd cyfle i Felin ennill dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers mis Ionawr drwy guro Mynydd Llandygai oddi cartref nos Iau.
O’r funud gyntaf, roedd hi’n amlwg mai brwydr oedd y gêm hon. Daeth hyn yn fwy amlwg i’r cefnogwyr ar ôl iddynt glywed rhif 2 Llandygai yn dweud wrth Iw Eds “Ma cachu fi’n galetach na chdi.”
Fe ddechreuodd y gêm yn addawol i’r tîm oddi cartref a chafwyd cyfle i fynd ar y blaen mond i’r cae tatws gael y gorau o Chris Brown pan oedd un yn erbyn un efo’r golwr. Er cychwyn yn dda, roedd Felin ar ei hol hi ar ôl chwarter awr. Yn dilyn un o sawl galwad sâl gan y dyfarnwr, cafodd Mynydd gyfle i roi’r bel ym mocs Felin o ganlyniad y gic rydd. Yn ffodus i Mynydd, roedd un o’i amddiffynwyr yn y lle cywir i gyfarfod y bêl efo’i ben. 1-0 i’r tîm cartref ar ôl chwarter awr.
Yn fuan wedyn mi oedd hi’n 2-0 ar ôl gwaith da gan asgellwr Mynydd, asgellwr a ddylai fod wedi cael ei yrru oddi ar y cae ar ôl iddo boeri ar Hatton.
Sgor hanner amser 3-0.
Roedd hi’n amlwg bod Euron wedi cael ambell i air efo’i chwaraewyr hanner amser oherwydd, yn debyg i ddechrau’r hanner cyntaf, fe ddechreuodd Felin ar y troed blaen. Yn dilyn gwaith da yn hanner Mynydd, fe ffeindiodd Iw Eds le i grymanu’r (hoff air Malcolm Allen) bel i gornel bellaf o’r gôl ond fe ergydiodd golwr Mynydd yn dda.
Eto, yn debyg i’r hanner cyntaf, er y pwyso cynnar yn yr ail hanner, roedd Felin bellach ar ei hol hi. 4-0 ar ôl i’r cae tatws amharu ar gyfeiriad y bêl. Roedd hi’n 5-0 yn fuan wedyn – gol o safon gan rif 11 Mynydd.
Er y siom, fe gafodd y cefnogwyr gyfle i ddathlu ar ôl i Sgod leihau’r sgôr i 5-1. Yn anffodus i Sgod, doedd hi’n fawr o gôl…. Rhoddodd y gôl hwb i’r tîm oddi cartref ac ar ôl gwaith da rhwng Gruff a Ryan, roedd hi’n 5-2. Gruff yn chwarae’r bêl drwodd i Ryan cyn iddo chwalu’r bêl i’r gornel uchaf o’r gôl.
Erbyn hyn roedd Tony Towels yn pendroni ac yn poeni fod yr hyn ddwedodd am ei dim yn anghywir - “Neith neb guro’r tîm yma”. Dim ond edrych ar y gyngrhair sydd angen gwneud er mwyn gweld bod Towels yn anghywir beth bynnag.
Gyda’r golau y gwanio, fe ddaeth yn amlwg mai dim ond ychydig o’r gêm oedd ar ôl a'i bod hi yn rhy hwyr i’r tîm oddi cartref leihau’r sgôr ymhellach. Sgôr terfynol: Mynydd 5-2 Felin.
Gyda gemau yn dod yn syth ar ôl i’w gilydd adeg yma o’r tymor, mi fydd cyfle i Felin anghofio am siom nos Iau pam fu Gaerwen yn ymweld â San Siloh ddydd Sadwrn.
Adroddiad gan Rhodri Dafydd