031216-llanrug-a

 

badge badge

SADWRN 3 RHAGFYR 2016, 13.45
CWPAN HER MAWDDACH ROWND 1
Eithin Duon

Llanrug United

Carl Griffiths 6'
Luke Phillips 29'
Jonathan Sadler 71'
Own Goal 90'

4 - 0

Y Felinheli

 

Yn dilyn sesiwn ymarfer anllwyddianus nos Iau, roedd ffitrwydd "sugar-rush Sgod" o dan sylw yn mynd mewn i'r gêm fawr yn erbyn ein gwrthwynebyr o adran 1 o'r Welsh alliance.

Roedd nifer o absenoldebau yn Pob (TA's), Mart (gweithio fo kids) a'r master penalty takers, Dan a Iw Eds, heb anghofio'r resident match reporter, Sdal Em a oedd yn galifantio tua canal street!!
Ac i ychwanegu at broblemau'r manijment, toedd Marc Wyn ddim ar gael chwaith yn dilyn llawdriniaeth ar ei gêg (rwbath i stopio'r twrw whistlo pan mae'n siarad!). Felly dim amdani ond galw ar wasanaethau Dyl "Bambi on ice" Bonc i sefyll rhwng y postia!

Cafwyd newyddion da fore'r gêm, gan glywed bod capten Sgod yn holliach, diolch i caretaker Brian am yr energy flap jack a diod fizzy (sôn dim wrth canteen boss ysgol friars).

Roedd problem ar ffordd fyny i Llanrug, wrth i Euron (logistics manager Siemens) gymeryd wrong turn ar ei ffordd i bigo paracetamols a chewing gum fyny o Beran i Sgod, dim ond i Sgil fynd ar ei ôl am bod o myn cofio lle oedd cae!!

Wedi'r halibalw o ddiffyg kit, peli a cones (yn car Sgil) a diffyg managers (yn car Euron) cychwynodd y gêm yn hwyr am 1.45.

Er y cyfnod byr o 'warm up' a'r nifer o absenoldebau, setlodd Felin mewn i'r gêm wedi tua 15 munud. Er bod Llanrug wedi mynd ar y blaen yn ystod y cyfnod hwn (pen Sgod dal i fod yn area roadshow north west Wales HSBC, yn colli rheolaeth ar y bêl, a Carl Griffiths yn rhwydo) roedd yr hogia dal i chwarae, ag yn pwyso am yr equaliser. Ond golygai un neu ddau o gamgymeriadau ar y bêl, yn ogystal a bod yn ail i rhan fwyaf o'r peli, bod Llanrug yn mynd mewn dwy gôl i fyny ar yr egwyl hefo ergyd weddol rhwydd i Luke Phillips.

Cafwyd cychwyn addawol i'r ail hanner, yn well tîm am gyfnod sylweddol. Ond fel nifer o'n gemau blaenorol tymor hwn, just methu rhoi y bêl yn y rhwyd wedi sawl cyfnod o chwarae da.

Cafon ein cosbi ar 72 munud, wrth i Carl Griffiths dori'n rhydd ar yr asgell chwith, a croesi i'r postyn pella ble roedd Johnny Sadler yn disgwyl i rhoi'r bêl yn y rhwyd wag.

Beryg bod hyn wedi torri calonau'r ogia, wrth i Llanrug fynd ymhellach ar y blaen yn y funud ola. Ergyd isel, a darodd y ddau bostyn cyn i Gwion Ffarmwr faglu dros y bêl a'i gwthio hi dros y lein!

Sgôr terfynol

Llanrug United 4-0 CPD Y Felinheli

Yn fy marn i, toedd y sgôr ddim yn adlewyrchu'r gêm. Fel ddudodd y giaffar ar ôl y gêm, gallwn gymeryd dipyn allan o'r perfformiad calonogol heddiw yn mynd mewn i dwy gêm fawr cyn y nadolig. Hefyd, mae chydig o wersi i'w dysgu o'r diwrnod:

- Tydi trafeilio adra o "management meeting" o Gaer fore'r gêm ddim yn ddelfrydol!

- Tydi cymeryd shortcut trwy penisarwaun ddim yn shortcut

- Ac yn sbeshal i Sgod a Hatton, cross field ball ydi ystyr pêl letraws!!!

Bryszzzzzzzzzzia wella Marc Wyn Joneszzzzzzzzz!!!

Adroddiad gan Dyl Bonc