SADWRN 1 EBRILL 2017, 14.30 |
Blaenau Ffestiniog Amateurs |
0 - 2 |
Y FelinheliIfan Emyr 72' |
Ar ol canlyniad siomedig yn Llanfairpwll ganol wythnos, trip i Blaenau oedd hi i Felin dydd sadwrn olaf Mawrth. Roedd yr amodau'n berffaith ar gyfer gem o bel droed ac roedd hogiau Felin yn teimlo lot gwell ar ol penwythnos hegar yn Nulyn.
Penderfynodd y rheolwr, Euron, i fynd nol i 4-3-3 ar gyfer y gem hon, ond Blaenau oedd ar top ar ddechrau'r gem. Diolch i arbediad gwych Rhys Mills (sydd ond wedi gadael un gol i mewn tymor yma) roedd y gem yn gyfartal ar hanner amser.
HT 0-0
Daeth Felin i mewn i'r gem yn yr ail hanner gyda Chris Brown (CraBra) yn amddiffyn y 4 cefn yn wych a Gruff John ag Iwan Eds yn mynd a'r gem i Blaenau. Dangosodd Cra pwy oedd y boss pan oedd un o chwaraewyr Blaenau'n gafael yn ei goes. Gwthiodd Cra'r chwaraewr cyn cal ton o abiws gan cefnogwyr Blaenau, Ond ar ol dynwared cimwch distewodd y cefnogwyr. Gwaeddodd DJ Islwyn Bonc oddi ar y fainc "Chris Brown... cool down".
"The game had 0-0 written all over it" ond newidiodd hynny pan peniodd Ryan o groesiad Dyl Jr a darganfod traed Ifan Emyr. Yn anffodus doedd Rich Humphs ddim yno i ganu! 1-0
Gyda Felin ar y blaen a'n dominyddu daeth Aled Em a Harri Wyn ymlaen i wneud yn siwr bod y tri phwynt yn mynd yn ol i Seilo. Daeth yr ail gol holl bwysig gyda 5 munud i fynd. Ar ol gwaith da gan Aled Em, glaniodd y bel yn y box i Iwan Eds. Troellodd y dewin rhwng chwaraewyr Blaenau cyn waldio'r bel i gefn y rhwyd.
Roedd tactics slofi lawr y gem Felin yn mynd yn dda gyda Dan yn defnyddio tin Chris Hughes ag Aled Sgiff aka "Mushroom bach tew" yn cymeryd hanner awr i gymeryd throw in. Diolch byth dal ar y tri phwynt nath Felin.
FT 2-0
Tri phwynt haeddianol a pwyig iawn i Felin. Gyda 9 gem mewn 21 diwrnod yn dod i fyny roedd hi'n bwysig curo "to get the ball rolling" math o beth. Prestatyn yw'r gem nesaf dydd sadwrn, a mae Sgiff wedi trefnu bws chwarae teg idda fo! Mi fydd hi'n neis gael y Capten yn ol o Belfast!
Pethau a ddysgwyd o dydd Sadwrn
• Mae Dyl Bonc yn hoff o wneud ffrindiau gyda ymosodwyr
• Mushroom bach tew ydi'r sbeit gora ever
• Don't drink with Joni Trons ar ol chwarae 90 mins CraBra!
• Erioed di gweld rhywun yn slipio gymaint mewn un gem na Ryan Cain
Adroddiad gan Aled Emyr
Y Tîm
Rhys Mills
Ifan Dafydd Drws Nesa (Dyl Jr)
Aled Sgil
Dyl Bonc
Ifan Em
Chris Brown
Gruff John
Iwan Eds
Iwan Bonc (Aled Em)
Ryan (Harri Wyn)
Danny