170218

 

badgebadge

SADWRN 17 CHWEFROR 2018, 14.00
CWPAN HER MAWDDACH ROWND 1
Maes Eilian

Llanfairpwll

0 - 5

Y Felinheli

Carwyn Dafydd 18'
Carwyn Dafydd 41'
Chris Brown 45'
Chris Brown 61'
Dan Hughes 74'

 

CraCar o win yn y Gwpan Her Mawddach yn erbyn Llanfair PG

Wedi 6 wythnos hir o Sadyrnau yn siopa i Sgod a sawl ymweliad a chaffi Swellies i weddill y tîm roedd ail gêm o 2018 i Felin ymlaen o’r diwedd. Hwn oedd y pedwerydd cynnig ar chwarae'r fixture yn y Mawddach Cup yn erbyn Llanfair PG oherwydd problemau gyda'r caeau yn Seilo ac ar Faes Eilian.

Roedd sgwad gref ar gael i Euron a benderfynodd fynd efo 4-3-3 ymosodol gyda'r cefnwr de (IDDN) a chwith (Ry) yn cael rhyddid i ymuno yn yr ymosod ar bob cyfrif. Ar ôl deunaw munud roedd tactegau Euron wedi gweithio, Ryan yn curo dau ar yr asgell chwith cyn chwipio croesiad sydyn i mewn i'r bocs lle'r oedd Carwyn wrth y postyn blaen yn barod i gael ei droed ati cyn i'r gôl geidwad allu ymateb. 1-0 Felin. Carwyn Dafydd

Codwyd y tempo ar ôl y gôl gyntaf, Felin yn gyfforddus ar bêl ac yn chwarae'n daclus allan yn llydan. Gyda thua 5 munud tan hanner amser daeth croesiad hir, ar ôl gwaith da ar y dde gan Ifan Daf, i mewn i le peryglus yn y bocs. Doedd neb o amddiffyn Llanfair yn cymryd cyfrifoldeb felly nodiodd Carwyn y bel i lawr a llwyddo i sgorio ar ei ail gyfle i'w gwneud hi'n 2-0 ar y dydd a 100 gol i Felin.

Gyda dim ond munudau o'r hanner yn weddill cafwyd 3ydd gol y gêm. Ychydig o hoofball a ping pong yn adeiladu at bas Iwan Eds i Iw Bonc yn y bocs a lwyddodd gael y bel at Cra a orffennodd yn daclus yng ngwaelod de'r gôl. 3-0 Felin hanner amser.

Debyg i'r hanner gyntaf oedd yr ail, Felin yn rheoli'r chwarae ond weithiau'n trio'n rhy galed i sgorio yn lle ymlacio. Daeth y 4ydd i Felin tua chwarter awr wedi'r hanner, ergydiad Iw Bonc rhy boeth i goalie Llanfair a Cra yno i bigo fyny'r briwsion. Dwy'r un felly i Cra a Car ('da chi'n dallt y teitl rŵan?). Daeth Dyl, y cyntaf o'r eilyddion ymlaen yn lle If Daf oherwydd "dead arse" yn fuan ar ôl y gôl. Carwyn Dafydd

Hefo tua 20 munud yn weddill daeth y ddau eilydd arall ymlaen, Tryst ymlaen am ei 3ydd debut i Felin yn lle'r future captain, Con, a Dan, y "veteran", yn lle Cra. Yn fuan ar ôl y newidiadau roedd Felin yn lwcus i beidio gadael gôl i mewn ar ôl "comedy of errors" yn y cefn.

Dim ond 5 munud oedd rhaid i Dan ddisgwyl am ei gol, pas letraws gan Ryan yn ei ganfod cyn iddo reoli a throi mewn un cyn ergydio o du allan i'r bocs. 5-0 Felin.

Cafwyd mwy o gyfleoedd cyn diwedd y gêm ond dim byd yn sticio i Felin. Cawod gynnes tro 'ma, diolch byth, ar ôl i'r plymar o fri (Ryan), ffidlan efo'r tap wedi'r gêm orffen. Prynhawn da i Felin a drwodd i'r rownd nesa'.

Adroddiad gan Carwyn Dafydd. Fideos gan Jack Cain. Lluniau gan Aled Wyn Jones.

Y Tîm

Marc Wyn
If Daf
Ryan
Mart
If Em
Con
Joni
Iw Eds
Car Daf
Iw Bonc
Chris Brown

Dyl Bonc
Dyl Jnr (ymlaen yn lle If Daf)
Ifan Roberts
Tryst Daf (ymlaen yn lle Con)
Dan Hughes (ymlaen yn lle Cra)

MOTM - Iw Bonc