general-home

 

badgebadge

SADWRN 11 CHWEFROR 2017, 13.30
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Cae Seilo
Torf: 40

Y Felinheli

Gruff John 22'
Gruff John 43' (Pen)
Iwan Owen 63'

3 - 3

Mynydd Llandegai

Liam Willighan 16'
Alwyn Roberts 71'
Alwyn Roberts 79'

 

Ar ôl y newyddion am llwyddiant llawdriniaeth Connor Patrick ddechrau’r wythnos ac Al Em wedi 'pullio' y penwytnos cynt, roedd Felin mewn hwyliau da yn mynd mewn i'r gem bwysig dydd Sadwrn. Gyda Harri Wyn, Morgan Owen a James Hatton 'ar goll', a Dan snr nol o'i anaf Cae 3G Llandudno, ac Aled Sgil nol i'r tim, roedd gan Euron dipyn o feddwl i'w wneud ar gyfer y tim i chwarae Mynydd Llandegai ar Gae Seilo.

Penderfynodd Euron gadw yr un siap i’r tim, gan fod y 'team meeting' wrth defnyddio 50 ceiniog Fish a bwrdd pool y fic cyn gem Mochdre wedi gweithio’n dda!

Dechreuodd Felin yn araf, gyda Mynydd Llandegai yn cael llawer or meddiant ar ddechrau’r gem, Er mai nhw oedd i 'fod' y tîm cartref, dyma Mynydd yn sgorio o fewn y 20 munud gyntaf. Nid y dechrau gorau i Felin, ond ymatebwyd yn sydyn drwy ddangos cymeriad i ddod nol i guro 2-1 erbyn hanner amser, diolch i ddwy gol gan Gruff John. Yn anffodus i îs-rheolwr y tîm a methodd gôl gyntaf Gruff, ond roedd yn gwybod ei bod yn un dda o ymateb Euron, ‘fock si gôl!’.

HT - 2-1.

Daliodd Felin ati ar ddechrau ail hanner, gyda Iwan Bonc yn cadw ei ben (yn wahannol i Islwyn) i rhoi Felin 3-1 fyny erbyn 63 munud. Ond gyda anafiadau i Martin a Dan Snr, daeth Aled Sgil a Chris (Cra) Brown ymlaen i ddangos i ‘ogia Mynydd mai mond rhif yw oedran!

Gyda pethau'n dechrau poethi ar y cae ac oddi ar y cae, a phenderfyniadau anghymeradwyol gan y dyfarnwr, daeth Mynydd nol mewn i'r gem gyda dwy gol o fewn wyth munud i unioni'r sgor ar ol 79 munud.

Penderfynodd Euron wneud newid arall, gyda mainc llawn profiad a chryfder, rhoddod yr eilydd Dan Jnr ymlaen i guro'r gem. Yn anffodus, er i Felin orffen y gem yn dda a creu cyfleon i guro(Cra), methodd i rhoi y bel yn nghefn y rhwyd. Gorffennodd y gem yn gyfartal 3-3. Cafodd cefnogwyr ffyddlon y clwb weld gem gyffroes, a pwynt pwysig Iawn i'r Felin.

Er i'r chwarewyr fod yn siomedig ar ol colli mantais o ddau gol, dal ati oedd neges pwysig gan y tîm rheoli. Ymlaen i’r gem nesaf a ni.

Dyma rai pwyntiau a ddysgwyd o'r gem:
• I beidio a pigo ffeit gyda Islwyn Bonc!
• Newyddion drwg bod anaf cae 3G Llandudno dal i fygwrth Dano Snr
• Yn ol y linesman, mae dyfarnwr Arwel yn ddyn 'neis'
• Dyma gem olaf Felin i wisgo kit coch/du/gwyrdd
• MOTM : Dan Jnr
• Cofiwch adio Euron Davies ar snapchat!

Adroddiad gan Dano/Dan Jnr (Gyda arweiniad prif cymhorthydd Ysgol Tryfan, Aled Emyr)

Y Tîm

Marc Wyn
Fish
Dyl Bonc
Ifan Em
Ryan Cain
Martin
Dylan Jnr
Iw Eds
Gruff John
Iwan Bonc
Dan Snr

Al Em
Al Hughes
Sgil (ymlaen am Martin)
Chris Brown (ymlaen am Dan Snr)
Dan Jnr (ymlaen am Iwan Bonc)