101216-a

 

badgebadge

SADWRN 10 RHAGFYR 2016, 14.00
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
School Lane
Torf: 80

Cemaes Bay

M Shakesoeare 34'
M Shakesoeare 65'
S Whittaker 88'

3 - 2

Y Felinheli

O Goal 15' (OG)
I Owen 38'

 

Roedd Euron wedi pwysleisio bod 9 pwynt allan o’r 3 gem cyn ‘dolig am fod y gwahaniaeth o eistedd yn gyfforddus yn hanner ucha’r tabl dros y flwyddyn newydd neu ar y gwaelod felly doedd dim angen dweud llawer mwy am bwysicrwydd y gem yma yng Nghemaes.

Yn anffodus, roedd y sgwad reit denau ar y diwrnod hefo nifer wedi tynnu allan. Hefyd, un neu ddau o’r hogia wedi cymyd mantais o’r adeg cymdeithasol yma o’r flwyddyn ac felly wedi cael eu Lemonêd olaf ychydig yn hwyr nos Wener. Nawni ddim enwi neb chwaith. Clap mawr I Dyl Bonc, Iw Bonc a Dan am neud y siwrna awr a 47 munud (ia Dan?) o Rhiw i chwarae. Ffein am beidio dod i pub ar ol gem ddo.

Dechreuodd Felin yn dda yn ffeindio passes yn ganol cae a rhyddhau Iw Bonc a Ryan ar yr asgell. Aeth Felin ar y blaen ar ol chwarter awr wrth i groesiad perffaith Ryan gael ei wyro gan amddiffynwr Cemaes i gol ei hun. Rhyw ugain munud wedyn, daeth Cemaes yn gyfartal. Cic gornel yn cael ei glirio ond yr ail bel i fewn ffeindio ymosodwr Cemaes yn y postyn pellaf i orffen yn daclus. Ychydig o funudau yn ddiweddarach, roedd hi’n benalti I Felin. Rhediad anhygoel Gruff yn denu un o amddiffynwyr Cemaes i ffowlio yn y bocs. Daeth y classic showt “Penalti!” gan Sgil i fewn yn handi gan i’r reff bwyntio i’r smotyn. Gan fod Dan a Iwan Eds yn banned o gymyd penalis ar ol gem Mochdre, safodd Iwan Bonc i fyny a’i chladdu hi. 2-1 i Felin yn haeddianol yn mynd mewn i’r egwyl.

Wrth ddod allan ar gyfer yr ail hanner, cafwyd quote y diwrnod (unwaith eto gan Connor Patrick) – “Mae nhw’n gallu mynd ymlaen ond ddim yn licio dod nol i wneud y gwaith ar ol colli’r bel – fel Arsenal”. Mae’n rhaid bod hogia Cemaes wedi clywed hyn ac wedi defnyddio doethineb Connor i newid eu gem oherwydd roeddyn nhw nol yn gyfartal ar yr awr. Shot o du allan y bocs yn gwyro heibio Dyl Bonc a 3 ymosodwr Cemaes ac i fewn i’r rhwyd. Callum Rownd a Rownd ddim yn fflagio am offside gan bod yr ymosodwyr ddim yn ymharu a’r chwarae. Dyl yn dadlau eu bod yn tarfu ei olwg ond mae’r rheol yma yn un fydd byth yn ddu a gwyn. Amddiffyn Felin yn cadw reit solid ar ol y gôl a Dyl yn meddwl na defender oedd o am ychydig gan wneud cwpwl o dacls gwych ar ymosodwr Cemaes. Cafodd goli Cemaes ychydig o arbedion i wneud yr ochr arall hefyd ond Felin methu sgorio. Yn agos I ddiwedd y gem, aeth Connor I fewn yn gryf i dacl a brifo’i goes yn y broses. Cemaes yn dewis cario mlaen tra oedd Con i lawr ac arweiniodd hyn at bel lletraws mewn i’r bocs ac ymosodwr Cemaes yn gorffen yn y postyn pellaf. Sgor terfynol – 3-2. Canlyniad oedd yn amlwg yn meddwl lot i Gemaes yn ol y dathliadau. Pennau Felin i lawr eto ar ol chwarae mor dda a chael dim allan o’r gêm.

Rhai yn rhoi bai ar y sgwad tenau , eraill yn rhoi bai ar benderfyniadau Callum Rownd a Rownd ond mae’n amlwg na gwrando ar Christmas FM yr holl ffordd yno oedd y broblem. Tydi ‘Feliz Navidad’ ddim yn gân motivational iawn cyn gêm.

Mae hi’n bwysig ofnadwy ein bod yn cadw ein pennau fyny a gwneud ein gorau i fod yna nos Lun a nos Iau. Pentraeth oddi-gartref nesaf a chyfle i gael mynd fewn i’r wyl hefo gwen ar ein gwynebau. Gêm bwysig ofnadwy.

Ffeithiau’r diwrnod:
- Gwnaeth Harri Wyn ei debut i Felin ar ol Connor “sicknote” Patrick frifo
- Chwaraeodd Martin 90 munud am y tro cyntaf ers 2007
- Roedd 3 actor rownd a rownd yn y cae Ddydd Sadwrn – y mwyaf sydd erioed wedi bod yn nghae Ffordd yr Ysgol ar yr un adeg
- Chef yr Harbwr ydi mêt gora newydd Chris Brown

Adroddiad gan Gruff John