051116-a

 

badge badge

SADWRN 5 TACHWEDD 2016, 14.00
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Cae Seilo
Torf: 50

Y Felinheli

Ifan Emyr 5'
Iwan Owen 68'

2 - 2

Meliden

Luke Ashley 10'
Luke Ashley 40'

 

Ar ol colli i Meliden ddwy waith yn barod tymor yma roedd Felin yn benderfynnol i gael canlyniad yn Cae Seilo.

Ar ol ei berfformiad wythnos dwythaf, roedd Dylan Bonc yn cadw Marc Wyn allan o'r tim. (Llongyfarchiadau Marc!) Roedd un o'r chwaraewyr mwyaf profiadol ar goll. Matthew "Fish" y capten, ar benwythnos GWLYB yn Munich. Felly cyfle i'r Ex Marine, Aled Pob i arwain y tim.

Dechreuodd Felin yn wych a'n chwarae pel droed bendigedig ar adegau. Daeth y gol gyntaf o gic rhydd. Iw Eds yn chwipio chwip o bel i mewn i'r cwrt cosbi a peniad bler Ifan Em yn taro'r trawst cyn gwyrio oddi ar amddiffynwr Meliden. Dechrau da i Felin, ond ar ol hynny dechreuodd Meliden bwyso. Cafwyd gic rydd penigamp gan rhif 10 Meliden dim ond i arwr y dydd Dylan Bonc rhoi'r arbediad mwyaf araf a welodd neb erioed! Araf ond effeithiol!

Roedd pethau'n edrych yn dda i Felin, Ond dyma Meliden yn ymosod allan o nunlle a'r ymosodwr yn cyrlio'r bel i waelod y rhwyd. Dim byd oedd Dylan yn gall neud, heblaw am trio deifio ella...

Ta waeth daeth yr ail yn fuan iawn wedyn, un go debyg i'r gyntaf (jesd bod Dylan wedi rhegi ar ol i hon fynd i fewn!) Hanner amser a Felin ar ei hol hi. Roedd angen newid gyda Sgil yn "tynnu ei hamstring", dim byd i wneud efo Parti Al Pens nos wenar!! Daeth James "the Hitman" Hatton ar yn ei le yn dod a blynyddoedd o brofiad i'r tim, gwelodd neb droed chwith gwell na James!

Gyda Meliden ar y blaen roedd angen rhywbeth sbeshal ar Felin, a gafwyd y cefnogwr oedd yn Seilo weld andros o gol wrth i Iwan Bonc sgorio gol y tymor (efallai). Ac fel dywedodd Connor Patrick, "fydda ni'n clywad am honna trw nos wan!!"

Gyda'r sgor yn gyfartal roedd coesau Felin yn mynd yn drwm ar gae GWLYB Seilo. Disgynodd Dylan Jones (Bar Manager Copa) a daeth Connor ymlaen yn ei le. Mi gafodd o gem dda (piti nad ydio'n gallu darllen hwn). Ond roedd un peth ar goll. Gwaeddodd y Rhelowr Euron ar Iwan Bonc i fynd lawr a smalio ei fod wedi ei anafu i hen ffefryn Seilo Aled Em cael dod ymlaen. Roedd ei gyffyrddiad gyntaf yn warthus, er roedd yr haul yn ei lygaid, chware teg iddo!

Yn y pum munud dwythaf dim ond un tim oedd ynddi. Felin. Cafodd Iwan Eds gyfle gwych i rhoi un o ymosodwyr Felin drowdd ar gol, ond ar ol sylwi mai Aled Em oedd yna roedd yn well ganddo chwarae am dafliad!

Yn y munud olaf roedd Ryan Cain (mab Ddynas go smart yn ol y son!) yn rhedeg lawr yr asgell a chwipiodd y bel i mewn i'r cwrt cosbi. Daeth y bel oddi ar gorff y gol geidwad ac yn ol i Danny... Roedd y gol yn wag a'r tri phwynt yn y bag... Ond methiant oeddi. Roedd Danny (a Dyl Bonc) eisiau i'r llawr eu llyncu!

Yn fuan wedyn aeth y chwib olaf. Roedd Felin yn anlwcus i beidio casglu'r tri phwynt ond heb giamocs arwrol Dyl Bonc, efallai y buasai'n stori wahanol. Felly ymlaen i'r gem nesaf a dim ond gobeithio y bydd chwaer Dan junior yno yn cefnogi!

Adroddiad gan Aled Emyr

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gêm