FRIDAY 18 OCTOBER 2019, 18.30 |
Llandudno AmateursLuke Mahoney 27' |
4 - 4 |
Y FelinheliRhys Parry 15' |
Welsh only...
Match report gem Llandudno Amateurs gan Dyl Bonc:
147one in one out!
Yn dilyn buddigoliaeth llawn goliau yn y gwpan Adra i Gaergybi wsos dwutha, lawr y côst oeddi ar nos wener gwlyb ganol mis Hydref.
Llandudno Amateurs odd y gwrthwynebwyr, o dan lîf-oleuadau ar gae 3G Llandudno.
Am change, doedd dim brys i frysio o’r gwaith, gan ei bod yn 7.45 ko, ond ella fod hyn yn ormod o amser i Connor feddwl, gan mae yma gafodd o “brain damage” chydig o dymhorau nôl!
Ymlaen a ni fo’r gic cynta, Felin yn dechra’r gêm yn weddol sydyn, Carwyn Dafydd yn curo ei flick-ons yn wych, rhai yn mynd yn wastraff, ond Archie’n manteisio ar oddeutu 10 munud, hefo half volley i ochr chwith y gôl geidwad cartref, 1-0 Felin.
Cafwyd sawl ymosodiad gan Felin, yn twyllo’r amddiffyn, ond y ref (yn erbyn barn leinsman nw) yn rhoi off side tra’n cael peint yn y clubhouse! Rhywystredig iawn, yn enwedig i’r assistant manager, Islwyn Bonc, a gafodd gerdyn melyn am alw’r dyfarnwr yn “fat little Hitler”!
Yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd symudiad gorau’r gêm. Y bêl yn cael ei chwarae mewn i’r bocs, step over gan Archie, a Gruff John ddim yn rhoi cweit digon o bwer yn yr ymdrech, a’r perygl yn diflanu.
Cafwyd digwyddiad rhyfedda’r gêm wedi tua 25 munud. Golygai’r holl law fod ffôn “on call” Joni’n canu. Tactegau oedi Fish a Dyl ddim digon i gadw petha fynd tan hanner amser. Oedd Tony’n flîn ochr arall i’r ffôn, ac oedd rhaid i Joni ddod off i gymeryd yr alwad.
Daeth Rhods mlaen yn lle Joni, Felin yn lwcus o’r fainc cryf oedd ar gael heno. Llwyddodd Joni i sortio llifogydd Gogledd Cymru oddi ar ei laptop o’r outside bar, lle oedd Shait a Cra’n gael peint. Hilter bach tew yn gweld hyn yn rhyfedd wrth i Euron ddeud mae derbyn galwad i ddeud fod ei wraig yn cael babi oedd yr un cynt!
Cafwyd 3 gôl mewn tua 10 munud cyn diwedd yr hanner. Llandudno’n creu yn y bocs, cyn darfod yn dwt i’w gwneud yn 1-1.
Symudiad gwych gan Felin wedyn i’w gwneud yn 2-1. Launch gan Dyl Jnr o’r cefn, croesiad ar hyd y llawr o’r ochr chwith gan Iw Bonc, a ergyd Carwyn Dafydd rhy boeth i’r goli.
Blerwch gan y ref wedyn, yn methu gweld rhif 10 Llandudno off side cyn rhoi cic gornel, a blerwch gan Felin wrth amddiffyn, free header 2-2.
Dim llawer i wahanu’r ddau dîm yn yr ail hanner. Felin yn mynd 4-2 i fyny hefo ymdrech wych gan Archie o fewn y bocs, a peniad Iw Bonc o gic gornel 5 munud rôl I Sgil ddeud “dani byth yn sgorio o corners”!!
Golygai cyfuniad o ffactorau bod Felin ddim cweit digon da i ddal mlaen i’r triphwynt. Llandudno’n sgorio’r ddwy ola o’r gêm i sicrhau gêm gyfartal.
Ddoth Owain Em mlaen yn lle Ifan Daf, a Huws yn lle jelly legs Pob, a gafodd Felin digon o gyfleon i gipio’r triphwynt, ond doedd hi ddim i fod. Gêm gyfartal a pwynt allai fod yn werthfawr mewn lle anodd i fynd.
Siom ar ôl y gêm....dim yn unig doedd Joni dal heb gael plentyn number 2, a fod y clubhouse wedi cau i Leni a Elen! Am yr ail waith i ni chwarae yno, oedd y shitting showers yn oer.
Ymlaen a 16 ohonym i’r club 147 yn ganol dre i’r “post match refreshments” rhyfedda dwi rioed di weld! Gorfod mynd heibio’r bownsar mwya i mi weld ers John Bocsar i fynd mewn, Jack Cain ddim yn cael mynd mewn am ei fod wedi 9....jôc! A trio cael sgwrs fo Steff am Japan, tra bod Ssndstorm gan Darude yn blastio, a farts Leni’n creu sandstorm o fath arall!
Ta waeth, pawb yn fodlon wedi cael 2 beint yr un, a 10” BBQ pizza a box o jips ‘a la Bella pizza’ i rannu, oni methu cysgu oni mor llawn!!
Dim gêm wan am bythefnos. Awê i Ginmel Bê (ma na gynganedd yn fana’n rwla!), digon o amser i Ifan Em ddiweddaru’r wefan!!
Marc Wyn
If Daf
Dyl Jnr
Mart
Ry Cain
Pob (c)
Con
Joni
Archie
Carwyn
Iw Bonc
Guto
Rhods (yn lle Joni)
Ow Em (yn lle IDD)
Huws (yn lle Pob)
If Stead
MOTM - Archie