SATURDAY 29 APRIL 2017, 14.30 |
Y FelinheliGruff John 1' |
3 - 2 |
Prestatyn SportsTom Mcdonald 7' |
Welsh only available ...
Ar ddydd Sadwrn olaf Ebrill roedd hi'n gyfle i groesawu Prestatyn Sports i San Seilo. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd am gem o bel droed, mor hyfryd yr oedd Felin am chwarae'r gem yn noeth oherwydd fod Gwil John heb gyrraedd efo'r kit! Ond yn anffodus i Fiona a Moira cyrrhaeddodd Gwil hanner awr cyn y gic gyntaf.
Dechreuodd Felin yn dda, ac ar ol gwaith da gan Ryan Cain ar yr asgell roedd Felin ar y blaen diolch i ergyd Gruff John o ganol y cwrt cosbi. 1-0. Ond daeth Prestatyn yn ol i'r gem yn fuan wedi'r gol i ddod a hi'n gyfartal. 1-1.
Am y tro cyntaf ar Gae Seilo, defnyddiodd y dyfarnwr ei fajic spray, gan wneud i Dafydd Pin feddwl ei fod yn marcio ei gae. Un person oedd wrth ei fodd gyda'r spray oedd capten Felin, Matthew "Fish" Hughes gan iddo wneud swn bach rhyfedd wrth i'r dyfarnwr rhoi'r llinell o'i flaen.
Sgoriodd Felin dwy gol arall cyn hanner amser. Ryan yn sgorio un ac yna gwaith da eto gan Ryan yn croesi'r bel i'r cwrt cosbi a'n canfod Gruff "Yr Eog" John wnaeth penio'r bel i gefn y rhwyd.
3-1 Hanner Amser.
Dechreuodd yr ail hanner gyda dwy gol. Prestatyn yn sgorio i wneud hi'n 3-2 cyn i Ryan sgorio. Yn anffodus roedd Rhywun yn camsefyll ar gyffer gol Ryan felly 3-2 oedd hi dal i fod. Methais hyn i gyd gan fy mod i'n yr ystafell newid. Ar ol dychwelyd o'r ystafell newid gwelais James Hatton yn cicio'r bel dros y ffens yn fwriadol cyn derbyn cerdyn melyn. Chwarae teg i James, dywedodd sori i'r dyfarnwr. Classic Hatton! Yn y pum munud olaf gwaeddodd Euron ar Dan Junior (sydd wedi overtakio Hatton fel Muscle man Felin) i fynd i'r gornel a defnyddio'i gorff i warchod y bel. Mi warchododd o'r bel gyda'i holl nerth, anhygoel.
Gorffenodd y gem yn Felinheli 3 Prestatyn 2. Canlyniad gwych i'r tim cartref. Ar ddiwedd y gem trodd pethau reit sur ar ol i gol geidwad Prestatyn fynd yn flin efo Dei O oedd wedi bod yn harthio arno drwy'r gem. Roedd Wags Felinheli yn gandryll wrth i'r gol geidwad ddefnyddio geiriau anweddus o flaen plant a phobl ifanc y pentref. Golygfeydd anhygoel ar Gae Seilo.
Felly un gem yn weddill y tymor yma. Pentraeth adref yn Seilo nos iau. Dewch yno i gefnogi ac i fwynhau gem olaf y tymor.
Report by Aled Emyr
Line-up
Rhys "Mills" Edwards
James "Sori" Hatton
Mathew "Fish" Hughes
Dylan "Bar Manager Copa/Car Wash King Caernarfon" Jones
Ifan "Brawd fi" Emyr
Connor "Banned o Liverpool Arms" Japheth
Ifan Dafydd "Drws Nesa"
Gruff "IRA" John
Iwan "Met Pete" Bonc
Ryan "Chopstick" Cain
Danny "Shorts XXL" Huws
Dan "Muscle Man" Junior
Harri "Tost" Wyn
Aled "Sgil, Sgiw, Sgiff, Nip, Mushroom Bach Tew" Williams
Aled "Dio'm yn iawn, Dio'm yn iawn" Emyr