SATURDAY 17 DECEMBER 2016, 14.00 |
PentraethRhys Roberts 1' |
3 - 2 |
Y FelinheliIwan Edwards 16' |
Welsh only available ...
Yn dilyn canlyniad a oedd yn anodd ei chymryd yn erbyn Bae Cemaes yr wythnos yn gynt, roedd pawb yn deall y pwysigrwydd y gêm hon ym Mhentraeth. Oherwydd bod Euron dal heb sysio allan amseroedd teithio i fannau gwahanol o Sir Fôn, roedden yn cyrraedd Pentraeth yn fuan iawn, gyda phawb mewn hwyliau da ag Euron efo sgwad dda i ddewis o am y tro cyntaf mewn ychydig wythnosau.
Wrth baratoi am y gêm roedd un neu ddau beth werth i'w nodi. 1) Sut mae Hatton yn gallu cymryd troiad anghywir ar lon syth? 2) Gyda'r nifer o cones roedd o wedi rhoi allan ar gyfer y 'warm up' roedd yn amlwg bod Fish wedi bod yn gwylio Krypton Factor ar UK Gold yn lle mynd allan efo Connor Jaffs ar noson Black Friday. 3) Roedd yn amlwg bod un o'r swyddogion yn ffan fawr o Gary Glitter, gyda steil gwallt amheus iawn, ond fel oedd y pnawn yn parhau oedd yn amlwg i bawb nid dod allan o'i dŷ efo steil gwallt icon cerddoriaeth y 80au oedd y penderfyniad mwyaf dadleuol iddo neud y diwrnod hwn.
Gafodd Felin y cychwyn gwaetha bosib gyda Phentraeth yn mynd ar y blaen ar ôl dim ond eiliadau o'r gêm wedi mynd. Roedd rhaid Felin unwaith eto dangos calon a chwffio ei ffordd yn ôl i mewn i'r gêm.
Wrth i'r hanner barhau roedd Felin yn dangos bod nhw oedd y tîm gorau ag yn cychwyn ffeindio passes yn ganol cae a rhyddhau Ryan ac Iwan Bonc ar yr asgell, gyda Ryan yn cael y gorau o'r amddiffynnwr de yn gyson ac Iwan yn anlwcus iawn ddim sgorio gydag un neu ddau o'i ymdrechion. Yn y 16eg munud ddoth Felin yn gyfartal ar ôl i Iwan Eds yn ymateb y cyflymaf ar i'r gôl-geidwad methu delio gyda chic rydd bwerus Gruff John. Parhau i ymosod gwnaeth Felin, ag oni bai am un neu ddau arbediad da oddi wrth y goli mi fysan wedi sgorio gôl neu ddau arall haeddiannol. Ond yn y 27ain munud gydag un o'i ymosodiadau prin sgoriodd Pentraeth eu hail gol gyda'r penderfyniad dadleuol mawr cyntaf, ond ddim y olaf, oddi wrth y swyddogion. Croesiad dwfn i mewn i'r bocs, un dylai Felin wedi amddiffyn yn well, yn ffeindio'r asgellwr de yn rhydd ar y postyn cefn, cyn iddo ddefnyddio ei law i daro'r bel ar draws y gôl lle oedd un o'i ffrindiau yn disgwyl i tapio'i fewn. Gol oedd yn un dadleuol iawn, ond y gwir ydi un dylai Felin wedi amddiffyn yn well fel tîm.
Ddoth Felin syth yn ôl ar yr ymosodiad ag cyn dim oeddynt yn ôl yn gyfartal. Trysti-turn odidog gan Gruff yn ganol cae yn agor y cae fynnu cyn iddo groesi'r bel a ffeindio Ryan ar y postyn cefn, ac wrth ymestyn pob modfedd o'i goesau hir ffeindiodd Ryan gornel y rhwyd gyda volley bach neis.
Hanner Amser. Dwi ddim yn shwr pwy oedd mwyaf balch o fynd fewn i'r ystafelloedd newid ar hanner amser, Pentraeth oherwydd roedd Felin yn edrych fel sgorio'r gôl nesaf unrhyw funud, ta Euron oherwydd ei fod ychydig yn ofn ar ôl gael ei fygwth gan un o gefnogwyr 'mawr' Pentraeth.
Yn dilyn ychydig o eiriau doeth oddi wrth y tîm rheoli ar hanner amser, roedd Felin yn chwarae yn hyderus iawn ar gychwyn yr ail hanner. Roedd Ryan yn cael llwyddiant ar yr ochr chwith ag unwaith eto yn dangos pawb ei fod yn chwaraewr ifanc addawol iawn, fel udodd Dan Snr ar ôl gem - "Mae o'n remeindio fi o Archie ifanc", jyst gobeithio fod o'n feddwl ei flynyddoedd yn chwarae ffwtbol i Felin a ddim ei flynyddoedd mewn cadair olwyn!!
Ond yn anffodus wrth i'r ail hanner parhau'r un oedd y stori, Felin yn chwarae pêl-droed deniadol iawn ag edrych fel y tîm gorau, ond wrth iddynt fethu cyfleoedd ag ddim yn amddiffyn digon cryf, unwaith eto wythnos yma ddoth y gôl yn erbyn rhediad y chwarae. Unwaith eto, am yr ail dro yn ystod y gêm, gafodd Pentraeth ychydig o lwc efo penderfyniad dadleuol gan un o'r swyddogion. Ar ôl i Fish gael ei guro ar yr asgell chwith, croesodd yr ymosodwr y bel wrth y 'byline' roedd yn edrych fel aeth y bel allan o dir y chwarae cyn dod 'nôl fewn, ond gyda'r swyddog cynorthwyol yn brysur yn canu rendition o "Doing Alright with the boys" wrth y llinell hanner, gafodd asgellwr de Pentraeth y cyfle i dapio'i fewn o lath ne ddau. Unwaith eto gol oedd yn un dadleuol iawn, ond y gwir ydi gol ddylai Felin (ac un cefnwr chwith enwedig) wedi amddiffyn yn well ar y postyn cefn. Parhau i ymosod am weddill y gêm wnaeth Felin, ond ddim yn gallu ffeindio'r 3ydd gol, gyda gôl-geidwad Pentraeth yn neud un neu ddau o saves da iawn.
Gem yn gorffen yn 3-2 i Bentraeth, ddim y canlyniad oedden yn chwilio am yn mynd fewn i'r brêc Nadolig, ond unwaith eto perfformiad oedd yn haeddu pwynt os nad tair.
Roedd yn braf gael sgwad lawn, neu bron yn llawn, yn ôl ar gyfer y gêm, ag roedd ychydig o benderfyniadau'r swyddogion cynorthwyol yn ddadleuol iawn, ond y gwir ydi (fel udodd aelod o'r tîm rheoli ar ôl y gêm) mae rhaid iddynt stopio edrych am esgusodion a chychwyn edrych ar ein hunain er mwyn gael ein hunain allan o'r twll hwn.
Gem anodd iawn arall i ffwrdd yn Llanllyfni ar ddiwrnod olaf y flwyddyn, gem sydd wedi bod yn un gystadleuol a scrapi iawn dros y blynyddoedd. Tydi gemau scrapi ddim fel arfer yn rhai sydd yn dangos Felin ar eu gorau, ond efallai bydd hyn yn gyfle i'r chwaraewyr dangos bod ganddynt y galon a'r 'ffeit' byddent angen i droi'r canlyniadau o'u plaid a chael ail hanner gwell i'r tymor.
Nadolig Llawen i bawb gan bawb o CPD Y Felinheli.
Report by Aled 'Sgil' Williams