general-home

 

badgebadge

SATURDAY 14 OCTOBER 2017, 14.00
TAKE STOCK VAN HIRE CUP ROUND 1
The Mine

Meliden

Matthew Griffiths 25' (Pen)
Chris Marsden 66'

2 - 1

Y Felinheli

Martin Hughes 18'

 

Welsh only available ...

Wedi panic Nos Wener yn ama mai dim ond un-ar-ddeg o chwaraewyr oedd ar gael i'r gem gwpan oddi cartref yn erbyn Meliden, braf oedd cyraedd Fic a sylwi mai dim ond Marc Wyn ac Ifan Jones oedd yn 'missing in action'.

Cafwyd trafodaeth dwys yn nghar Islwyn Bonc ar y ffordd i lawr yr arfordir. Dyl a Gwion yn cymharu 'minutes to goals conceded'. Dyl yn ildio a chyfadda' yn diwadd mai rhoi Gwion 'The Cat' Tegid yn gôl fyddai ora'.

Paratoadau digon tebyg i'r arfer, er gwaetha'r gaffar yn galafantio. Islwyn Bonc yn ysbrydoli'r tim cyn y chwiban gynta' ac yn atgoffa'r hogia' i chwara efo gwen ar eu gwynebau.

Felin yn penderfynu chwarae gyda'r gwynt yn yr hanner cyntaf, a hynny i weld i fod yn help sylweddol. Y bêl yn cael ei symud o gwmpas y cae yn llwyddianus ar y cyfan, ond y tim yn euog o drio'r bel hir yn rhy aml. Cic gornel i'r Felinheli, croesiad pwerus tuag at y postyn cyntaf, Ifan Emyr yn defnyddio'i graith i roi'r bel yn nghanol y bocs wrth i Martin Hughes daro'r bel yn bwerus i cefn y rhwyd. Partneriaeth newydd y cefn yn dangos eu gallu yn mhob pen o'r cae.

Yn anffodus, dyma Meliden yn deffro - tair cic gornel yn olynol iddyn nhw. Peniad i glirio i gychwyn, yr ail yn arbediad gwych gan y gôl-geidwad a'r trydydd yn gamddealltwriaeth llwyr . . gan y gôl-geidwad. Daeth y pedwerydd cic o'r gornel i fewn a chael ei glirio, ond chwiban y reff yn cael ei chwythu, Martin Hughes a Welburn yn un pentwr ar y llawr. Er, gwaetha' dadla' Hughes, mi oedd y dyfarnwr yn sicr o'r hyn a welodd. Cic o'r smotyn. 1-1. (Dim bai ar y gôl-geidwad.)

Hanner amser. Neges yn glir, cadw'r bêl ar y llawr ac mwynhau.

Munudau mewn i'r ail-hanner ac mi roedd hi'n amlwg y byddai hwn yn 45 anodd i hogia' Felin. Y gwynt wedi codi #stormophelia. A thim Meliden yn defnyddio eu profiad ar y cae cachu ci gan symud y bêl o asgell i asgell a chadw'r bêl ar y llawr.

Er i Felin amddiffyn yn dda, wedi dros 70 munud o chwarae dyma gôl i Meliden. Ergyd wedi ei grybannu i gornel top chwith y gol gan un o chwaraewyr amlycaf y gêm. Byddai hyd yn oed Marc Wyn, Rhys Eds a Tom bach wedi gweld hi'n anodd i arbed hon.

Wedi 80 munud, cafwyd capten Meliden gardyn coch yn dilyn dau felyn gwirion. Er i hyn roi hwb i hogia' Felin, methu a rhoi'r bêl yn y rhwyd oedd yr hanes. 5 munud arall a does wybod, ond yn anfoddus y gêm yn darfod 2-1.

Pethau iw nodi o'r gem:

- Mae Chris Brown yn meddwl bod Fic am 11:55 yn "early start bra!"
- Tydi IDDN ddim yn atab ar whatsapp oni bai bod Iwan Eds yn g'neud.
- Pan da ni'n colli, mae Islwyn y licio newid y formation i 4-4-4.
- Llongyfyrchiada' Danny am beidio a dadlau efo dy Dad yng nghyfrath.
- Tydi pub newydd Meliden FC ddim patch ar y hen un (Carlsberg ofnadwy!)
- #JFCH

Report by Gwion Tegid. Video by Jack Cain

Line-up

Gwion Tegid
Ryan
If Em
Martin
Fish (c)
If Daf
Con
Joni
Iw Eds
Carwyn Dafydd
Dan

Cra (on for Dan)
Al Em (on for Iw Eds)
Dyl Jnr (on for If Daf)

MOTM - Dan