280117

 

badgebadge

SATURDAY 28 JANUARY 2017, 14.00
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Mochdre Sports Club
Attendance: 40

Mochdre Sports

Darren Landers 63'

1 - 0

Y Felinheli

 

Welsh only available ...

Yn anffodus, chwaraewyd gem Mochdre oddi-gartref Ddydd Sadwrn. Roedd hyn yn siom enfawr i ffans snwcer y tim gan fod y ‘Player’s Championship’ yn cael ei chwarae yn Venue Cymru, Llandudno ar Fawrth yr 11fed, a buasai y gem yma wedi bod yn handi i gael ar y dyddiad yna. Ta waeth, gallwn ni ond obeithio am gem ym Mhrestatyn ar yr 11fed o Fawrth rwan.

Roedd Euron yn amlwg wedi bod yn meddwl dipyn am y gem yma, ac roedd angen gwneud ychydig o newidiadau i siap y tîm gan fod traed Dan ddim yn cytuno hefo cae 3G Llandudno a Con wedi cael bymp ar ei ben felly y ddau yna ‘ar goll’ fel ‘sa Harri Wyn yn ddeud. Sgil/Sgiw/Sgiff hefyd ar goll. Roedd dim ond un ffordd o egluro’r siap newydd - defnyddio 50p Fish i gael y peli pool i gyd allan ar fwrdd pool y Fic ac esbonio’r siap a rôlau pawb fel hyn.

image4-2-2-2 oedd y siap, ac roedd hyn yn amlwg yn gweithio gyda Felin yn dechrau’n bositif iawn. Martin a Dyl jnr yn cadw canolwyr Mochdre allan o’r gem, a Gruff, Iw Eds, Iw Bonc a Ryan yn pwyso i fyny’r cae. Fish a Hitman yn chwarae yn uwch i fyny’r cae na’r arfer yn rhoi opsiynau ar yr asgell tra roedd Dyl Bonc a Ifan Em yn gadarn yn y cefn. Er gwaethaf y dechrau da, prin oedd y cyfleon gyda dipyn o ergydion yn mynd heibio’r gol ond dim llawer i boeni’r gol-geidwad. Yr un stori oedd hi ochr arall y cae hefyd – Marc Wyn yn cael hanner cyntaf ddistaw gyda cwpwl o arbedion digon cyfforddus iddo fo. Roedd tacls caled (ond glân ar y cyfan) Mart yn amlwg yn ypsetio chwaraewyr Mochdre ond hefyd y reff yn anffodus. Un yn ormod meddai’r reff wrtho a cafodd gerdyn melyn anlwcus iawn jyst cyn hanner amser (Fish yn gandryll). 0-0 hanner amser.

Roedd Felin yn gwybod bod yna 3 pwynt ar gael wrth ddod allan yr ail hanner. Roedd hi wedi troi yn gem gystadleuol iawn a’r cae wedi troi’n fwdlyd. Mochdre ffeindiodd y rhwyd yn y diwedd. Felin methu delio â chorner a’r bel rhywsut yn ffeindio’i ffordd i fewn. Roedd ymateb Felin yn reit bositif ar ol hyn gyda dipyn o ‘counter attacks’. Yn un o’r rhain, llwyddodd Ryan i ddefnyddio’i gyflymdra i fynd heibio’r amddiffynwr olaf gan ei orfodi i dynnu Ryan yn ol jyst tu allan/jyst tu fewn i’r bocs yn gwybod ei fod wedi cael ei guro. Tu allan i’r bocs oedd hi yn ol y dyfarnwr ond yn anhygoel, dim cerdyn! Dwi’n siwr buasai’r amddiffynwr wedi derbyn cerdyn coch am y ffowl yna. Beth bynnag, method Felin i ffeindio’r rhwyd a roedd ychydig o benderfyniadau eraill gan y dyfarnwr a’i lumanwr yn ffystreitio Felin. 3 gwaith fe fethodd y llumanwr i roi corner i Felin. Dim penderfyniadau mawr ond y rhai bach fel hyn sy’n gallu gwylltio rhywun ac yn ddigon i’w rhoi off eu gem. Sgôr terfynnol – Mochre 1 Felin 0.

Pawb yn siomedig ofnadwy felly. Ond dyma ychydig o bositifs y diwrnod:
• Chwaraeodd Al Huws (AKA The White Yaya Toure) tua hanner awr sy’n awgrymu bod comeback ar y ffordd. Efallai bod £50 Ifan Em ddim mor saff a hynny wedi’r cyfan?
• Os mae cyfradd ffeins James Hatton yn parhau, bydd y tim yn gallu fforddio mynd i Las Vegas am wythnos fel ‘end of season do’
• Fe wnaeth Dyl jnr, Ryan a Iw Eds recyfro o whiplash ers nos Iau i allu chwarae
• Llongyfarchiadau mawr i Al Em am oroesi dros fis heb gael peint

Report by Gruff John

Line-up

Marc Wyn
Fish
Dyl Bonc
Ifan Em
Hatton
Martin
Dyl Jnr
Gruff John
Iwan Eds
Ryan
Iw Bonc

Aled Em
Chris Brown (on for Dyl Jnr)
Huws (on for Martin)
Harri Wyn
Dan Jnr

MOTM - Gruff John