140117-llandudno

 

badgebadge

SATURDAY 14 JANUARY 2017, 13.00
WELSH ALLIANCE LEAGUE DIVISION 2
Maesdu Park

Llandudno Albion

Duncan Midgley 27'
Ricky Jones 45'
Jordan Kane 75'

3 - 1

Y Felinheli

Gruff John 29' (Pen)

 

Welsh only available ...

Er cael dwy ganlyniad gwych yn yr wythnosau diwethaf, roedd hon am fod yn fwy o sialens eto, wrth i Felin drafeilio lawr yr A55 i herio arweinwyr y gynghrair, Llandudno Albion.

Am y tro cyntaf ers misoedd, roedd yr Hogia'n cael mynd allan ar y cae hefo sgidiau heb dwy fodfedd o fwd odanynt (wedi dweud hyn, roedd sgidia Sgod yn annerbyniol o fudur am mouldies!!) gan fod Albion yn chwarae ar gae 3G Llandudno.

Cafwyd cic off buan o 1 o'r gloch gan bod gêm "Welsh Prem" i ddilyn ar y cae.

Dechreuodd Felin yn weddol, gan greu un ne ddau o symudiadau addawol, ac yn cyfyngu Llandudno i ergydion o bell oedd ddim yn trafferthu Marc "sgen ti Chomp" Wyn!

Wedi oddeutu 20 munud, daeth trobwynt y gêm. Yn dilyn tacl gadarn, roedd Connor wedi cael anaf i'w ben. Off a fo i'r sbytu efo Nyrsus Moira a Nerys John. Ergyd fawr gan fod perfformiadau Con wedi sefyll allan yn yr wythnosau diwethaf. Cyfle felly i Dyl Jnr, a ddaeth mlaen yn ei le.

imageChydig funudau wedyn, yn dilyn blerwch amddiffynol, roedd rhif 9 Llandudno, Duncan Midgley (uffar o foi iawn odd o fyd!!) drwadd ar gôl. Mi slotiodd hi'n dwt i'r gornel heibio Marc. 1-0 Albion.

Aeth Felin lawr y pen arall bron yn syth, ac wrth ymgeisio i dorri trwodd yn y bocs, llawiodd un o hogia Llandudno'r bêl, cic o'r smotyn i Felin. Camodd Joni fyny, a'i chladdu i gornel dde o'r rhwyd. 1-1.

Er i Felin barhau i greu cyfleon, roedd Llandudno yn dechrau cael gafael ar y gêm. A cafodd Felin eu cosbi chydig funudau cyn hanner amser, wrth fynd i gysgu ar throw in, cafodd rhif 6 Llandudno gormod o le, cyn sgwario'r bêl ar draws bocs ble roedd rhif 10 Ricky Jones yn disgwyl i ergydio ar hyd y lawr heibio Marc i'r gornel.

Hanner amser 2-1

Newid arall i Felin hanner amser, wrth i Aled "dry January" Emyr (ia glywso chi'n iawn, DRY!!) ddod mlaen yn lle Dan, a oedd wedi cael "3G related injury".

imageRoedd y tîm cartref yn pwyso am y drydedd gôl, tra bod Felin dal "in with a shout", pan penderfynnodd y giaffar bod o isho chydig o muscle yn y canol. Fel y datganiad ar wal yr Unit, "out of the hottest fire, comes the strongest steel"!!
Doedd hi myn hir cyn i'r hitman (James Hatton i'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd fo'r AKA!) rhoi ei stamp ar y gêm , wel pan dwi'n deud stamp, be dwi'n feddwl ydi complete chop from behind i'r boi odd newi sginio fo!!!

Cafwyd penderfyniad dadleuol ar 75 munud, wrth i Ifan Em enill y bêl yn lân, ond i'r rhif 9 (gentleman footballer!) rhoi ei ben yn isel at droed Ifs. Cic rhydd o tua 25 llath gan Jordan Kane, a ffeindiodd gornel top y rhwyd.

Sgôr terfynnol 3-1 i Llandudno.

Er colli'r gêm, dim pwynt digaloni gormod. Neith na'm llawer o dîms o fana hefo rhywbeth. Perfformiad calonogol, ond dim cweit digon da ar y diwrnod. Dim gêm am bythefnos wan, cyfnod i'r anafiadau ddiflanu gobeithio. Adra i Llanerchymedd ar y 28ain o Ionawr.

Be arall o heddiw?

imageMa angen egluro rheol y cic off i hogia Llandudno

Da di WAGS Felin. Moira a Ner yn rhoi Connor gynta, a rhoi cyfle i Pin a Gwil John fanteisio ar y £2.50 a pint

A fysa ni di cael gwell lwc yn erbyn YAWA FC heddiw??

Pan ma Hatton yn gofyn pick up o table table, mae'r boi actually tu mewn yn cael sit down meal

A Sgil, oedd wir angen hugio'r ref ar ôl gêm?!!

Report by Dyl Bonc

Line-up

Marc Wyn
Sgil
Fish (C)
Dyl Bonc
Ifan Em
Gruff John
Connor Jaffs
Iw Eds
Ryan Cain
Iw Bonc
Dan

Martin
Huws
Dan Jnr
Rhys Eds
Al Em (on for Dan)
Dyl Jnr (on for Con)
Hatton (on for Iw Eds)
Morgs
Harri Wyn

MOTM - Iw Eds