150818-b

 

badgebadge

MERCHER 15 AWST 2018, 18.30
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Millbank
Torf: 50

Holyhead Town

Sion Davies 15'
Tom Hadley 85'

2 - 3

Y Felinheli

Martin Hughes 26'
Iwan Owen 28'
Rhys Parry 88'

 

Roedd Felin yn trafeilio i Gaergybi am yr ail gêm o’r tymor newydd, dim am y tro cynta’n ddiweddar, yn brin o gôl geidwad profiadol, ond fel sawl o’r gemau blaenorol, roedd un o’r ffyddloniaid yn barod i gamu i’r adwy (passion not pounds!!)

Hefo Tegid yn gôl, dechreuodd Felin efo’r gwynt y hanner cynta. Roedd cymysgedd o’r gwynt cryf, glaw y pnawn a gwair newydd ei dorri, yn neud petha bach yn lletwyth, ond roedd petha run peth i’r ddau dîm doedd!

Methodd Felin i gymeryd mantais o’u cyfleon yn ystod yr 20 munud cyntaf. Ac yn dilyn chydig o flerwch amddiffynol, roedd Holyhead ar y blaen. Roedd y dathliad ar ffurf “huddle” yn awgrymu fod y gôl yn anisgwyl?? Felin yn amlwg methu delio hefo’r “force”!

Aeth pena’r ogia ddim lawr o gwbwl, ac yn fuan wedyn, rhoddodd Martin y bêl yn gefn y rhwyd o lathan allan yn y postyn cefn yn dilyn gwaith amddiffynol blêr o gic gornel, 1-1.

Doedd dim rhaid disgwl llawer cyn i Iw Bonc fod ar gael am tap in wedi gwaith caled gan cwpwl o’r ogia lawr yr asgell chwith,1-2.

Teimlad y fainc a’r cefnogwyr oedd bod rhaid cael mwy cyn hanner amser, gan ystyried eu bod nhw efo’r gwynt yr ail hanner, a bysa shot o halfway line efo chance da o fynd mewn, yn enwedig os bysa Tegid di gweld Van ice cream fel nath Shait dydd sad!!

Gwastraffus oedd gweddill yr hanner, a’r tîm cartref oedd hapusa’n mynd mewn ond un gôl ar ei hol hi.

Wedi clash of knees (hefo penglinia fo’i hun!), ddoth Con off half time, a Dyl Jnr on yn ei le i “blostro’r midfield”.

Ar wahan i chydig o ymdrechion a ddeliwyd yn dda hefo gan Tegid, ac ambell i gic rhydd off target, roedd hi’n gêm chydig fwy flat yr ail hanner, a hamstring pull Euron wrth fynd rôl y llimanwr oedd yr uchafbwynt bron!

Aeth Felin i gysgu braidd, ac efo chydig o waith da lawr y chwith, aeth croesiad mewn, a Holyhead yn gorffen yn dda ochr mewn i’r postyn, 2-2.

Roedd rhaid torchi llewis os am gael rhywbeth o’r gêm, a dangosodd Felin hyny chwarae têg. Daeth Gruff John ymlaen i gynnig par o goesa ffresh, a neud gwahaniaeth yn syth rhaid dweud.

Er i Holyhead gael gôl disallowed am offside, Felin gafodd y “last laugh” pan orffenodd Archie hefo composure, ond dathlu fatha dyn gwyllt (Z off police academy i’r rhai ohonoch sy’n cofio!!) wrth gipio’r triphwynt i Felin yn y munudau ola. Roedd y rhyddhad yn amlwg am fethu penalti chydig yn gynharach!

Cracar o result ar noson wyntog a gwlyb yn ben draw’r ynys. A dechra da i’r tymor. 4 pwynt allan o’r 6 cynta hefo dwy gêm oddi cartref. Awe i Meliden ddydd sadwrn, a gobeithio crowsawu hen ffefryn nôl rhwng y pyst!

Uchafbwyntiau’r noson (arwahan i hamstring pull Euron!):

- Dillad glaw Ifan Em (sy’n disgwl hip replacement ) aka Iolo Williams
- Rownd o 4 drink am llai na tenar yn y Chester!
- Oddi’n fraint cael “talksport personality” yn cefnogi’r hogia
- Ifan Dafydd yr adopted sir foniwr yn mynd ar goll

Adroddiad gan Dyl Bonc a lluniau gan Aled Hughes a Dyl Bonc.

Y Tîm

Gwion Tegid
Ifan Dafydd
Fish
Martin
Ryan
Connor Japheth
Steve Tindall
Iwan Eds
Archie
Carwyn Dafydd
Iw Bonc

Jordan
Owain (ymlaen yn lle Archie)
Dyl Jnr (ymlaen yn lle Connor Japheth)
Gruff John (ymlaen yn lle Carwyn Dafydd)

MOTM - Archie Parry