281017-a

 

badgebadge

SADWRN 28 HYDREF 2017, 14.30
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Cae Seilo
Torf: 70

Y Felinheli

Gruff John 6'
Ifan Dafydd 13'
Iwan Edwards 29'
Iwan Edwards 36'
Iwan Edwards 50'
Gruff John 56'
Dan Hughes 60'
Iwan Owen 79'
Chris Brown 79'
Gruff John 85'
Gruff John 87'

11 - 0

Cemaes Bay

 

Sut uffar dwi’n mynd ogwmpas sgwennu match report am hon! Dwi’n cael trafferth cofio hanner y gôls, ond mi driai, here goes.

Yn ôl i “league action” wedi chydig o wythnosau siomedig yn y cwpana.

Hefo Marc Wyn yn ôl wedi methu’r ddwy gêm ddwutha, roedd sgwad cryf ar gael wrth groesawu Cemaes i Gae Seilo.

Cafodd Felin ddechrau delfrydol pan sgoriodd Gruff John ei gyntaf o’r pnawn wedi tua 5 munud yn dilyn croesiad o’r chwith gan Ryan Cain.

2-0 ychydig funudau’n ddiweddarach. Iw Bonc yn gweld ei
ergyd yn cael ei arbed, ond i Ifan Dafydd drws nesa benio’r rebound yn wych heibio’r golwr.

Wedi hanner awr o chwarae, Gruff John yn dal y bêl fyny a disgwyl am opsiwn, mae’n rhaid nath o’m clywed Dan (dwnim sut? Oddo’n gweiddi fatha odd George Huws yn gweiddi ar Derek y plismon ar C’mon midffild), wrth iddo rowlio’r bêl i Iw Eds ar ymyl y bocs, a osododd hi yng ngornel isa’r rhwyd. 3-0

Oedd ffôn Sdal yn bleepio flat out yn y pink palace (yr un heb pwll nofio) wrth i Dyl Bonc rhoi updates ar what’s app flat out. Ag oedd o’n mynd eto ymhen 5 munud pan ddoth Iw Eds mewn o’r chwith a gorffen yn dwt i’r gornel bella, 4-0 hanner amser, ac yng ngeiriau’r linesman “a bit one sided isn’t it”!

Felin yn dechrau’r ail hanner fel gorffennwyd yr hanner cyntaf, parhau i bwyso a chwilio am fwy wrth ymosod tuag at y ‘canteen end’. Doedd dim rhaid disgwyl yn hir, pêl at ochr chwith y bocs gan If Daf at ei Llys Gwyn compatriot Iw Eds, a gafodd ei hatrick efo biwtar o curling effort i gornel bella’r rhwyd, 5-0.

6-0 ar ôl 56 munud, Joni’n ychwanegu at ei record goliau gwych wedi’r gôl-geidwad arbed ymdrech Iw Eds.

Iw Eds yn creu hafoc eto pum munud wedyn, yn chwarae’r bêl ar draws gôl, a rhoi tap in i Dan. Gôl hollol haeddianol i Dan sy’n neud lot o waith heb gydnabyddiaeth i’r tîm, 7-0

Cra, “the returning Shait”, a’r newydd ddyfodiad Jordan Pritchard yn dod ymlaen yn lle Dan, Mart a Iw Eds. Cafodd y tri ddylanwad ar weddill y gêm.

Cra, yn cael gwared o’r ‘proverbial monkey on his back’ (fwy o gorilla rili), hefo Ifan Em-esque bullet header o gic gornel Iw Bonc. Cue major celebration, yeah!! 8-0.

Odd what’s app CPD yn buzzio mwy na teulu Moira yn y ‘Bee gathering’ yn golf club Caernarfon! 9-0 mewn dim pan gafodd Iw Bonc wared o’r mwnci odd ar ei gefn o. Smasho’r bêl i’r rhwyd wedi arbediad o ymdrech Jordan.

Pawb wedi synu wrth glywed bod 10 munud ar ôl dal i fod, amser am fwy? Rhyfedd iawn gweld Felin 9 i fyny, ag ond dwy gôl i Joni. Doedd dim rhaid disgwyl hir am ei hat trick, 10-0 yn dilyn jygls yn y bocs rhwng Jordan a Gruff.

Gafodd Dyl jnr dipyn o sioc pan ddoth o’r shower i glywed y sgôr. “7-0 oddi pan eshi i shower”! Seliwyd perfformiad gwych a triphwynt pwysig pan rwydodd Gruff am ei bedwaredd yn dilyn pêl sydyn gan Iw Bonc. 11-0.

Sa hi di gallu bod yn lot mwy oni bai am ymdrechion gôl-geidwad dros dro Cemaes, tra bod Marc Wyn prin di cyffwrdd y bêl yr ochr arall.

Dipyn o gêm, a cur pen i Gwil John wrth ffonio’r canlyniad mewn! Grêt o result yn dilyn siom yr wythnosau diwethaf. Gêm fawr arall wythnos nesa, oddi cartref i Lannerchymedd yn y gynghrair.

Uchafbwyntiau eraill

Debut boddhaol iawn i Jord, odd ddim yn hapus rôl sginio dau foi, atho nôl i ddriblo nw eto!

Shait yn atgoffa pawb o’i allu hefo pile-driving tackle ar yr halfway line

Gêm gynta Iw Eds heb gael booking ers Cae Glyn under 7’s yn erbyn Bangor City Pumas yn 2001!

Sa Iw Eds a Joni di gael cadw’r match balls am yr hatricks os sa Fish heb golli 3 mewn shooting practice dros 50 foot fence yn friars!!

Dani myn rhoi posters i fyny yn deud bod bus DDIM yn mynd i gêms fel arfer Con!!

Euron yn sôn fod o’n mynd i Gaer wsos nesa efo cwpwl arall.....”that’s four of us”!!!

Fish yn troi mewn i gangster pan yn siarad fo Cra......”play it man”!!

Apparently mae’r players yn cael paned am ddim?!! Yndi Tom??!!

Adroddiad gan Dylan Bonc. Fideos gan Jack Cain. Lluniau gan CPD Cemaes Bay.

Y Tîm

Marc Wyn
Fish
Ryan
Mart
If Em
If Daf
Con
Joni
Iw Eds
Iw Bonc
Dan

Sgil
Cra (on yn lle Dan)
Hatton
Shait (on yn lle Mart)
Dyl Jnr
Jordan (on yn lle Iw Eds)

MOTM - Iw Eds