111117-a

 

badgebadge

SADWRN 11 TACHWEDD 2017, 14.00
CYNGHRAIR UNDEBOL Y GOGLEDD ADRAN 2
Mochdre Sports Club

Mochdre Sports

0 - 4

Y Felinheli

Gruff John 44'
Carwyn Dafydd 67'
Iwan Owen 73'
Iwan Owen 90'

 

Away day a hanner!!

Roedd diwrnod y trip wedi cyrraedd, wrth drafeilio lawr yr A55 am gêm oddi gartref i Mochdre Sports yn y gynghrair.

Un ne ddau o newidiadau munud ola, yr un mwya nodweddiadol yn dilyn absenoldeb Ifan “pa flight?” Emyr a oedd yn dal i gysgu yn erbyn y peiriant ticedi ym Mharis!

Cafwyd dechrau addawol wrth i Felin gychwyn hefo adegau o bêl-droed deniadol ar gae oedd yn torri fyny’n sydyn iawn wedi glaw trwm nos wener. Roedd Mochdre yn trio manteisio ar ddiffyg taldra yn amddiffyn Felin, drwy rhoi lot o beli peryg mewn i’r cwrt cosbi.

Er yr holl bwyso, doedd Mochdre’n cael dim hwyl ar hitio’r targed, ar wahan i un ymdrech a gafodd ei harbed yn wych gan Marc Wyn, wrth iddo ymestyn i’w chwith a rhoi y bêl yn erbyn y postyn.

Ychydig funudau wedyn, gwrthymosodiad ardderchog gan Felin. Joni’n neud be ma Joni’n neud ora (naci, dim canu caneuon IRA!), yn codi’n uchel i benio cic gornel Mochdre’n glir. Y bêl yn glanio wrth draed y rhedwr profiadol Ryan Cain, a chwaraeodd hi i Cra ar y llinell hanner. Daliodd Cra’r bêl digon hir i Iw Bonc cael neud overlapping run lawr yr asgell chwith, ac erbyn iddo fynd heibio amddiffynwyr Mochdre, a’i chwarae ar draws y gôl, roedd Joni di rhedeg hyd y cae am ‘tap in’ i dop y rhwyd, gôl wych, 0-1 Hanner Amser.

Peint sydyn yn y clubhouse i’r cefnogwyr, a start ar y correct score rygbi i Gwil John!

Allan ar gyfer yr ail hanner, a Felin yn neud y daith hir at y pitch yn reit hapus o wbod bod y number one fan, Bubs wedi cyrraedd yn saff o’r dafarn fyny lôn!

Hefo Mochdre yn parhau i bwyso, roedd teimlad byddai yr un gôl ddim yn ddigon, ac ar yr awr, cafwyd ail gôl werth disgwyl amdani. Hatton yn cymeryd throw in (nagoedd, doedd hi myn foul throw chwaith), Carwyn yn rheoli, cyn troi mewn a tanio ergyd troed chwith o ymyl y cwrt cosbi, gôl gynta’r tymor yn dilyn comeback wedi cyfnod hir allan hefo anaf, 0-2.

Roedd Felin ar dân erbyn hyn, ac yn anlwcws i beidio ychwanegu at y sgôr pan fethodd Cra neud ei feddwl fyny digon sydyn. Yn dilyn ‘inspired substitution’ gan y giaffar, Dan on yn lle Cra, ac efo’i gyffyrddiad cyntaf yn chwarae Iw Bonc drwodd am one on one, doedd dim camgymeriad wrth i Iw neud hi’n dair, a’r pwyntiau’n weddol saff, 0-3.

Hefo tua chwarter awr yn weddill, Carwyn yn dod off yn lle Aled ‘number one son’ Sdal, a Aled ‘Sgiff’ Williams on yn lle Connor ‘stacking and misbehaving’ gan bod ail felyn yn edrych yn beryg!

Hefo tua 5 munud yn weddill, Iw Bonc yn derbyn y bêl gan Joni, cyn defnyddio Dan fel decoy i’r trap cam-sefyll a mynd ymlaen ei hun, taro’r postyn a claddu’r rebound.

Sgôr terfynnol, 4-0 i Felin. Grêt o win, yn erbyn tîm fydd ddim yn colli llawer o gemau gartref y tymor hwn dybiwn i. Sgorio 20, a gadael dim i mewn yn y dair gêm ddiwethaf, platfform wych cyn mynd mewn i’r gemau mawr cyn y nadolig.

Be arall ddigwyddodd?

Gêm gyntaf llwyddianus i gefnogwr fwya newydd y clwb, Patsy Bach. Dim yn meddwl llawer o’r lampshade hat chwaith!

Cafodd Matty Gidlow ddiwrnod llwyddianus wrth ddychwelyd nôl lawr y coast

Ma na lyfli o scampi sizzler i’w gael yn y Cayley Flyer!

Gôl gynta Iw odd y gôl gynta i Jack Cain fethu ffilmio tymor yma....hang your head in shame Jack!!!

Rhaid dysgu peidio chwarae mor ddyfn, yn enwedig pan yn ddyfnach na deep end pwll nofio Caernarfon!

Lot o contenders am gefnogwr y dydd, ond rhaid rhoi o i Dei-O, dim yn unig dreifio a gadael car yno, ond dod hefo fancy dress postman fyd

Tydi’r busnas vegan ma da i ddim pan yn cael sesh!!

Adroddiad gan Dyl Bonc. Fideos gan Jack Cain. Lluniau gan Dyl Bonc, Rich Humph a Matthew 'Fish' Hughes.

Y Tîm

Marcws
Hatton
Ryan
Matty
Dyl Jnr
If Daf
Stacking and misbehaving
Joni
Cra
Carwyn
Iw Bonc

Dan (ymlaen yn lle Cra)
Jordan
Sgil (ymlaen yn lle s&m)
Iw Eds
Sdal (ymlaen yn lle Carwyn)

MOTM - Gidlow

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gem